Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 24 Ionawr 2017.
Rwy'n credu fy mod i’n cytuno â phopeth y mae pawb wedi’i ddweud. Rwy’n credu, ar y mater hwn, ei bod yn bwysig bod gennym gonsensws oherwydd mae mynd i'r afael ag ansawdd yr aer yn bwnc aruthol o bwysig. Nid oes y fath beth â lefelau diogel o ronynnau ac, a dweud y gwir, bydd rhai o'r camau y bydd angen i ni eu cymryd yn ei gwneud yn ofynnol i ni fynd i'r afael â'r modurwr hunangyfiawn, a bydd hynny yn amlwg yn eithaf dadleuol ymhlith rhai pobl yn ein cymuned.
Rwy'n credu bod rhai o'r materion y mae Gareth newydd eu codi yn bwysig iawn, ac er bod cyfiawnhad i gael lle parcio ar gyfer gweithwyr camera y BBC sy'n cario gwerth miloedd o bunnoedd o offer—mae’n rhaid iddyn nhw deithio mewn car—mae'n amlwg nad yw’n wir bod angen i’r rhai sy'n gwneud gwaith desg ddod i ganol y ddinas mewn car. Mae hynny'n rhywbeth sydd angen ei adlewyrchu yng nghynllun datblygu Caerdydd.
Roeddwn i’n dymuno canolbwyntio yn bennaf ar agweddau eraill sydd yn llawer llai dadleuol ond er hynny yn bwysig dros ben. Rwy’n cynrychioli’r etholaeth fwyaf trefol ac adeiledig yng Nghymru, rwy’n credu, yng Nghaerdydd Canolog, ac felly mae creu rhagor o fannau gwyrdd yn gwbl hanfodol i wella ansawdd yr aer. Mae Simon eisoes wedi crybwyll pwysigrwydd coed, a hoffwn innau dynnu sylw at un ffaith, sef y gall un goeden dynnu 26 pwys o garbon deuocsid o'r atmosffer bob blwyddyn, sy'n gyfwerth ag 11,000 o filltiroedd o allyriadau ceir. Mae dwy fil pum cant o droedfeddi sgwâr o laswellt yn rhyddhau digon o ocsigen i deulu o bedwar ei anadlu. Mae'r rhain yn ffigurau pwysig iawn, a dylai hyn ganolbwyntio ein meddyliau ar ein dull o gynllunio trefol, gan fod angen i bob cymuned elwa ar hyn. O ran mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, os oes gennym fannau gwyrdd, mae'n atal yr effeithiau cynhesu yn sgil arwynebau palmentog, yn adlenwi cyflenwadau dŵr daear, ac yn diogelu llynnoedd a nentydd rhag llygredd dŵr ffo. Mae'n lleihau erydiad pridd—mae gorchudd trwchus o blanhigion a thomwellt yn dal y pridd yn ei le, yn cadw gwaddod i ffwrdd o ddraeniau storm a ffyrdd, ac yn lleihau llifogydd, llithriad tir a stormydd llwch. Mae'r rhain yn faterion hynod bwysig i ni i gyd, ni waeth pa ran o Gymru yr ydym yn byw ynddi.
Bydd gardd dyweirch iach yn amsugno glawiad chwe gwaith yn fwy effeithiol na chae gwenith a phedair gwaith yn well na chae gwair. Rwy’n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn, oherwydd dŵr erbyn hyn yw’r aur newydd; ni allwn oroesi hebddo. Mae mannau gwyrdd yn lleihau straen ac yn rhoi hwb i rychwant sylw plant. Mae ymchwil arall sydd wedi darganfod bod symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio mewn plant yn cael eu lleddfu drwy gysylltiad â natur. Mae cael gwyrddni mewn amgylchedd bob dydd plentyn, hyd yn oed gweld gwyrddni drwy’r ffenestr, yn lleihau eu symptomau ADD. Gan fod hynny yn digwydd fwyfwy ymhlith disgyblion, mae hyn, o bosibl, yn ganfyddiad pwysig iawn ac yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn ein holl ysgolion.
Felly, beth yw'r ysgogiadau y gall y Llywodraeth eu defnyddio i wneud mwy o'r math hwn o beth? Roedd yn ddiddorol i mi gofio’r cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a dyfir yn y gymuned, a lansiwyd yn 2010, rwy’n credu gan y Llywydd, i hyrwyddo, cefnogi ac annog tyfu bwyd yn y gymuned yng Nghymru, ac i wella diogelwch bwyd drwy gynyddu’r cynnyrch garddwriaethol sydd ar gael sydd wedi’i dyfu yn lleol, gan gysylltu pobl â'r gadwyn fwyd, cynyddu nifer y bobl sydd â diddordeb mewn tyfu bwyd, a gwella iechyd a lles yn y broses. Rwy’n cofio bod llawer o brosiectau LEADER ardderchog wedi eu hariannu gan y rhaglen UE flaenorol, a weddnewidiodd rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn wirioneddol, ond na chawsant erioed eu troi’n arfer prif ffrwd i gymunedau difreintiedig eraill, a oedd wir yn gyfle a gollwyd.
Rwy’n cofio, bod rhestrau aros hir ar gyfer rhandiroedd, weithiau, ac maen nhw’n aml yn anhygyrch i bobl heb gar beth bynnag. Felly, mae dod o hyd i dir ar gyfer prosiectau tyfu newydd yn her y mae angen i ni ymdrin â hi, yn fy marn i. Talaf deyrnged i rai o'r sefydliadau a’r cymunedau yng Nghaerdydd sydd wedi helpu i oresgyn yr anawsterau hyn a chael rhagor o bobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain. Mae gennym y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol, sydd â 49 o brosiectau tyfu cymunedol ledled ein dinas. Ac mae gan y prosiect rhandir cymunedol Glanyrafon, sy’n cynnwys, yn rhan annatod ohono, weithgareddau'r Gymdeithas Marchnad Gymunedol, le cynyddol nepell i’r gogledd o Gaerdydd, lle gall pobl ddysgu sut i dyfu bwyd mewn awyrgylch cymdeithasol a chefnogol.
Mae Farm Caerdydd yn broses fapio dan arweiniad y gymuned, sydd wedi nodi dros 400 o fannau cyhoeddus ar gyfer tyfu bwyd a phlanhigion eraill. Rwy'n cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r prosiect Cynefin, a arweiniodd at osod planwyr perlysiau ar Heol Albany, sef canol tref fy etholaeth i ac yn ôl pob tebyg yr amgylchedd mwyaf trefol mewn unrhyw fan, gan nad oes braidd dim mannau gwyrdd yn yr ardal gyfagos. Mae llain o dir a elwir yn ardd gymunedol Mackintosh, hefyd ym Mhlasnewydd, a ddechreuodd ar raddfa fach iawn ac sydd bellach yn datblygu twneli tyfu ac yn helpu i addysgu carfannau cyfan o blant ysgol o ysgolion sy’n jyngl concrid, am o ble mae bwyd yn dod. Mae fy swyddfa i yn gweithio gydag ysgolion yn Llanedeyrn a Phentwyn, sydd, yn wahanol i Adamsdown a Phlasnewydd, yn cynnwys llawer o leiniau sylweddol o dir, ond, hyd yn hyn, nid oes llawer o dyfu yn digwydd arnyn nhw.