Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 24 Ionawr 2017.
Mae'r ddadl heddiw yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, felly byddaf yn canolbwyntio ar un agwedd, sef ansawdd yr aer. Mae ansawdd yr aer yn bwysig i bawb, felly mae'n iawn ein bod ni’n cymryd pob cam y gallwn yn y Cynulliad i’w wella. Rydym ni yn UKIP yn cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n mynd i'r afael â'r mater fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i weithredu Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, mewn lleoedd lle y mae ansawdd aer yn arbennig o wael, ond dim ond mesurau dros dro yw’r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer hyn i fod, tan fydd ansawdd yr aer yn gwella, a chaiff yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eu dirymu bryd hynny. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, fel yr ydym wedi clywed gan David Melding, dim ond pedwar allan o 42 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer sydd erioed wedi’u dirymu ac, mewn dau o'r achosion hynny, cawsant eu disodli’n gyflym gan Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eraill yn cwmpasu’r ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, dim ond dau allan o 42 sydd erioed wedi’u dirymu i bob pwrpas a phrin y gellir galw llwyddiant o lai na 5 y cant yn chwa o awyr iach.
Felly, beth allwn ni ei wneud i wella ansawdd yr aer? Wel, byddai’r problemau a all achosi dirywiad yn ansawdd yr aer gynnwys cynyddu nifer y ffaniau echdynnu mewn ardal gymharol fach. Defnyddir y rhain yn aml mewn safleoedd lle y ceir ceginau. Ond pan fyddaf yn ystyried sut y mae dwy ardal ychydig y tu allan i ganol dinas Caerdydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar, hynny yw Cowbridge Road yn Nhreganna a Heol y Ddinas yn y Rhath, mae mwy a mwy o drwyddedau wedi’u rhoi i fwytai, caffis a siopau bwyd brys. Mae llawer o'r siopau bwyd cyflym hefyd yn defnyddio cerbydau danfon. Ni all cymaint o ddatblygiadau o’r math yma wneud dim ond gwaethygu ansawdd yr aer yn yr ardaloedd hynny. Felly, un cwestiwn yw: sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu ei chamau gweithredu o ran ansawdd aer wrth ymdrin â chynghorau lleol yn eu swyddogaeth o fod yn awdurdodau trwyddedu a pha mor effeithiol yw'r mesurau hyn?
Ffactor pwysig arall o ran y dirywiad yn ansawdd yr aer yw’r cynnydd mewn tagfeydd traffig. Nawr, rwyf hefyd yn gweld bod nifer o sefydliadau mawr i fod i symud i Sgwâr Canolog Caerdydd o’r maestrefi ymylol, yn benodol Cyllid y Wlad, BBC Cymru a MotoNovo Finance. Nawr, rwy’n gwybod bod lleoedd parcio yn cael eu cyfyngu yn y Sgwâr Canolog, ond rwyf hefyd yn weddol siŵr y bydd llawer o weithwyr o'r sefydliadau hyn, serch hynny, yn dewis gyrru i mewn i'r dref i weithio, gan gynyddu tagfeydd traffig a gwaethygu ansawdd yr aer. Felly, nid yw'r pryderon hyn am ansawdd yr aer wedi gwneud dim i atal datblygiad y Sgwâr Canolog, sy'n cael ei wthio gan gyngor Llafur, ac mae'n gynllun sydd wedi ei gymeradwyo’n frwd gan Lywodraeth Cymru. Felly, pa mor bwysig, mewn gwirionedd, yw ansawdd yr aer i Lywodraeth Cymru? Pa ystyriaeth a roddir i bryderon am ansawdd yr aer yn y mathau hyn o benderfyniadau cynllunio?
Effaith olaf sylweddol ar ansawdd yr aer yw’r cynnydd yn y cyflenwad tai mewn ardal gymharol lawn, ac eto mae gan Gaerdydd gynllun datblygu lleol, wedi’i lunio gan ei gyngor Llafur, sy'n cynllunio ar gyfer cynnydd mawr mewn adeiladu tai ar y llain las. Bydd hyn yn cael effaith amlwg ar ansawdd yr aer. Felly, pa gamau y gall y Gweinidog eu cymryd i ddiogelu ansawdd yr aer rhag y mathau hyn o gynlluniau datblygu lleol sy’n niweidiol i'r amgylchedd? Diolch.