<p>Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:09, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ni allwn gytuno mwy. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddarpariaeth sy’n grymuso, ac y dylai pob unigolyn yn y gymdeithas ddisgwyl cael mynediad at ffurfiau ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd o ansawdd da. Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod fy mod wedi sefydlu grŵp hygyrchedd i roi cyngor i mi ar y fasnachfraint newydd ar gyfer y rheilffyrdd, ond hefyd gall y grŵp fy nghynghori ar fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus megis cludiant cymunedol. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn cydnabod, unwaith eto, fel rhan o’r system gwbl integredig honno, y bydd cludiant cymunedol yn dod yn fwyfwy pwysig ar draws y cymunedau, nid yn unig mewn ardaloedd mwy trefol ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes unrhyw atebion eraill ar gael yn aml.