<p>Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:10, 25 Ionawr 2017

Y farn gyffredinol ydy bod y cerbydau sy’n cael eu defnyddio gan y fasnachfraint drenau bresennol yng Nghymru o safon wael. Mi fydd angen buddsoddiad sylweddol ynddyn nhw er mwyn gwella ansawdd y stoc sy’n effeithio’n negyddol ar brofiadau teithwyr. Ond, yn ogystal â hynny, erbyn 1 Ionawr 2020, mi fydd angen i’r cerbydau gydymffurfio â’r rheolau newydd ar fynediad ar gyfer pobl anabl. Yn ôl yr arolwg diweddaraf, ni fyddai 73 y cant o gerbydau Cymru a’r gororau yn cyrraedd y safon ofynnol. A ydych chi’n hyderus bod modd i 100 y cant o gerbydau’r fasnachfraint Cymru a’r gororau newydd gyrraedd y safonau hynny erbyn 2020?