Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac rwy’n credu bod hwn yn bwnc y mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi bod yn ei ystyried yn ofalus iawn yn ddiweddar. Trwy wasanaeth Busnes Cymru, gallwn ddarparu gwasanaeth mentora sy’n cynyddu argaeledd cyngor sgiliau ar draws y gymuned fusnes. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i ddweud bod sgiliau’n hanfodol ar gyfer hybu gwelliant mewn cynhyrchiant. Fel rhan o’r gwaith ar y strategaeth ffyniannus a diogel, rydym wedi bod yn gweithio ar amrywiannau cynhyrchiant is-ranbarthol, a’r hyn a welsom yw bod dosbarthiad sgiliau anffafriol yn bendant yn ffactor allweddol yn y cyfraddau cynhyrchiant is. Gwelsom hefyd fod dwysedd is o weithgaredd, neu ddiffyg crynhoad os mynnwch, hefyd yn nodwedd, sy’n egluro pam y mae cyfraddau cynhyrchiant yn tueddu i fod yn uwch mewn dinasoedd mwy o faint.
Felly, mae amryw o resymau pam nad yw cynhyrchiant mor uchel ag y buasem yn dymuno, ond gan fod gennym y sylfaen dystiolaeth yn awr i allu bwrw ymlaen â strategaeth, rwy’n argyhoeddedig y bydd y strategaeth yn gallu cyflawni ar ddyhead a rennir ar draws y Siambr hon i wella cyfoeth a ffyniant Cymru.