Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 25 Ionawr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch yn gynharach fod Adam Price wedi dyfynnu o’r ‘Llanelli Star’ yr wythnos hon, a oedd yn adrodd yn ffyddlon yr hyn a ddywedais yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Ers hynny, mae Nia Griffith—yr AS dros Lanelli—a minnau wedi gohebu ymhellach gyda gweithwyr dur yn ein hetholaeth, ac mae gennym bryderon gwirioneddol fod y cynnig, sydd ond yn bosibl oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, yn wynebu pleidlais i’w wrthod. A fuasai’n adleisio fy mhryderon wrth gadeirydd Tata y gallai’r cytundeb hwn gael ei golli oni bai bod newidiadau pellach yn cael eu gwneud, ac y bydd yr effaith ar gynhyrchiant a chyfoeth economi Cymru yn sylweddol? A fuasai hefyd yn cytuno bod galw am gynnig gwell, a galw am wrthod y cynnig, yn gwbl wahanol, oherwydd buasai hynny’n anghyfrifol?