Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mae targedau Llywodraeth Cymru yn dweud na ddylai unrhyw glaf aros mwy na 12 awr am driniaeth mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn ein hysbytai. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr am driniaeth 31 y cant yn uwch ym mis Rhagfyr 2016 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn cynt. Mae hyn er gwaethaf gostyngiad o 5.5 y cant yn nifer y derbyniadau i’n hysbytai. Pa reswm y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi dros y cynnydd hwn yn yr amseroedd aros pan fo nifer y derbyniadau i’n hysbytai wedi gostwng mewn gwirionedd?