<p>Damweiniau ac Achosion Brys (Derbyn Pobl i’r Ysbyty)</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:59, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynd i mewn i ysbytai ac mewn cyfraddau derbyn. Yr her i ni, fodd bynnag, nid yn unig yw derbyn bod llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir, ond beth y gallwn ei wneud yn eu cylch. Mae hynny’n mynd yn ôl, unwaith eto, at gwestiynau blaenorol ynglŷn â’r hyn yr ydym yn ei wneud i gadw pobl allan o’r ysbyty yn llwyddiannus a’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd i gydnabod y ffaith fod gennym boblogaeth hŷn a salach ar y cyfan a thlotach na Lloegr ei hun. Mae hynny’n golygu ein bod yn fwy tebygol o weld pobl sy’n dod i mewn yn y gaeaf yn arbennig y bydd angen eu derbyn i’r ysbyty. Sut y gwnawn yn siŵr fod y bobl hynny mewn gwirionedd yn cael profiadau da wrth fynd drwy’r ysbytai a derbyn gofal ynddynt? Nid oes unrhyw bwynt esgus bod hon yn her hawdd i’w datrys, ond dyma pam y mae angen i ni gael ymateb system gyfan—nid ymateb wrth ddrws blaen yr ysbyty yn unig, ond drwy system gyfan yr ysbyty, pobl yn cymryd cyfrifoldeb, ac ar y pen blaen a’r pen ôl gyda gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol yn ogystal. Felly, yn bendant nid wyf yn hunanfodlon ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu, ac rwy’n disgwyl y bydd yr Aelodau’n parhau i ofyn cwestiwn i mi hyd nes y gwelwn ostyngiad cyson a pharhaus yn nifer y rhai sy’n aros 12 awr. Oherwydd rwy’n cydnabod ei bod yn annhebygol y bydd yn brofiad gwych i unrhyw un sy’n aros mor hir â hynny cyn iddynt gael eu rhyddhau.