– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 25 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle.
Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel Cadeirydd y pwyllgor, rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed wrth graffu ar feysydd allweddol o bolisi a deddfwriaeth dros gyfnod mor fyr.
Dros yr haf, aethom ati i ymgynghori ar yr hyn y dylai blaenoriaethau ein pwyllgor fod. Roeddwn yn falch o weld cyflwyniadau amrywiol a manwl gan bron i 90 o sefydliadau ac unigolion o bob rhan o Gymru. Arweiniodd hyn y pwyllgor i agor dau ymchwiliad a nodwyd gan y rhanddeiliaid: gwasanaethau eiriolaeth statudol ar gyfer plant a phobl ifanc a chanlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Rydym wedi gorffen cymryd tystiolaeth ar y ddau bwnc a byddwn yn cyflwyno adroddiad yn fuan.
Gan edrych ymhellach i’r dyfodol ac yn fwy strategol, nododd ein pwyllgor, yn y broses o’i gynllunio, yr egwyddorion a’r dyheadau ar gyfer ein gwaith dros bumed tymor y Cynulliad hwn. Bydd ymwneud plant a phobl ifanc yn sail i bopeth. Drwy ein gwaith, byddwn yn sicrhau bod barn a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael eu casglu mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol.
Yn ein hymchwiliad ciplun i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, rhoddodd mwy na 1,500 o bobl eu barn ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. Roedd eu cyfraniad yn rhan hanfodol o’n canfyddiadau a’n hargymhellion, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn hynod o glir: pan fo’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae’r effaith yn sylweddol. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn gatalydd i’w helpu i ddatblygu sgiliau a hyder a gwneud dewisiadau gwell yn eu bywydau.
Mae’n parhau i fod yn hanfodol i ni weithio gyda sefydliadau rhanddeiliaid, gofalwyr, athrawon a rhieni. Rwy’n llwyr ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bwyllgor eang ei orwelion a diddorol. Yn ystod ein gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, bydd ein haelodau yn cynnal digwyddiadau gyda rhieni a gofalwyr yng ngogledd a de Cymru.
Rwyf hefyd yn falch o hysbysu’r Aelodau y bydd cyfres o weithdai’n digwydd i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hwn yn rhan bwysig o’n gwaith craffu ar y Bil ADY ac rwy’n edrych ymlaen at weld safbwyntiau pobl ifanc yn llywio ein gwaith. Byddwn hefyd yn cynnal cynhadledd ar gyfer addysgwyr a rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i roi eu barn ar y Bil.
Buasai’n esgeulus ohonof i beidio â diolch i TSANA a SNAP Cymru am eu gwaith partneriaeth gwych gyda’n pwyllgor dros y misoedd diwethaf. Mae’r bartneriaeth hon wedi ein galluogi i ymgysylltu’n ystyrlon â’r rhai y bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.
Bydd ein gwaith partneriaeth a’n dull o weithredu sy’n edrych tuag allan drwy gydol y gwaith craffu deddfwriaethol hwn yn sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd ein gwaith a bydd gwaith craffu ar y Bil ADY yn rhan sylweddol o’n gwaith tan ddiwedd y gwanwyn.
Lywydd, mae aelodau’r pwyllgor a minnau wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Yn un o’n hymgynghoriadau cyfredol, rydym yn archwilio pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn o feichiogrwydd hyd at yr ail ben-blwydd. Mae’r amser ffurfiannol hwn yn rhan hollbwysig o fagwraeth plentyn ac yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad deallusol ac iechyd gydol oes.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried i ba raddau y mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl gynnar rhiant yn y 1,000 diwrnod cyntaf ac yn hollbwysig, pa mor effeithiol yw’r rhain am gefnogi galluoedd a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant yn y tymor hir. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad pwysig hwn yn gosod y llwyfan ar gyfer trafodaeth genedlaethol fawr ar sut y gallwn fynd ati o ddifrif i baratoi ein dinasyddion yn y dyfodol ar gyfer bywydau hapus ac iach.
Mae’r pwyllgor yn gofyn am fewnbwn gan athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill i’n hymchwiliad i ddysgu ac addysgu proffesiynol athrawon. Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio’r ffordd y mae athrawon newydd yn cael eu hyfforddi cyn iddynt gymhwyso a hefyd eu datblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.
Weithiau mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn gaeth i amserlenni anhyblyg ac oherwydd materion capasiti a chynllunio, yn aml yn methu cael yr amser i wella’u hunain yn broffesiynol. Ni all hyn barhau o ystyried y newidiadau parhaus i’r system addysg yng Nghymru, felly byddwn yn edrych yn benodol ar drefniadau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu presennol; rôl addysg gychwynnol i athrawon; a digonolrwydd y gweithlu addysg yn y dyfodol. Fel rhan o’n hymgynghoriad, byddwn yn gweithio gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymgysylltu ar y cyd â’r proffesiwn addysgu fel rhan o’u gwaith ar gonsortia.
Bydd yr Aelodau’n falch o glywed y bydd ein pwyllgor yn gwneud mwy na chynnal cyfres o ddarnau penodol o waith, ond y bydd hefyd yn sicrhau bod craffu parhaus yn digwydd ar feysydd polisi sy’n datblygu. I’r perwyl hwn, rydym yn parhau—[Torri ar draws.]—mae’n ddrwg gennyf; mae’n amser gwael iawn i ddechrau peswch. I’r perwyl hwnnw, rydym yn parhau i archwilio gweithrediad adolygiadau Donaldson a Diamond yn agos. Bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau llwyddiant y diwygiadau pwysig sy’n cael eu cyflwyno. Yn gysylltiedig â’n gwaith craffu parhaus ar ddiwygiadau’r cwricwlwm, byddwn yn archwilio perfformiad Cymru yn y PISA yn agosach ac yn archwilio sut yn union y bydd y diwygiadau cwricwlwm yn effeithio ar ein safle rhyngwladol.
Bydd iechyd plant yn chwarae rhan fawr yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda sefydliadau megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a chroesawu prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru i’r pwyllgor ym mis Mawrth i amlinellu ei weledigaeth ar gyfer gwella iechyd plant.
Mae aelodau’r pwyllgor yn frwdfrydig iawn ynglŷn ag ansawdd a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cynnal gwaith craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y maes pwysig hwn. Bydd y pwyllgor yn parhau i edrych ar y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc mewn argyfwng, ac yn benodol, ar achosion o oedi cyn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol.
Mae’r fenter senedd ieuenctid sy’n cael ei harwain gan y Llywydd yn foment wirioneddol gyffrous yn hanes y Cynulliad. Nid yn unig y mae’n un a ddylai greu cysylltiadau ystyrlon a pharhaol rhwng ysgolion, pobl ifanc a’r Cynulliad, ond mae’n gydnabyddiaeth o wir werth plant a phobl ifanc yn ein democratiaeth. Rwyf am gynnig cefnogaeth lawn a diwyro ein pwyllgor i sefydlu’r senedd ieuenctid, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn chwarae rhan lawn yn ei datblygiad.
Wrth gloi fy natganiad heddiw, Lywydd, hoffwn ddiolch i’r bobl ifanc, gofalwyr, rhieni ac arbenigwyr sydd wedi cyfrannu’n barod at ein cylch eang o waith ers sefydlu’r pwyllgor. Dros bumed tymor y Cynulliad hwn, gobeithiaf y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gyfrwng go iawn i leisiau pobl ifanc allu siapio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad. A gaf fi gofnodi pa mor effeithiol y bu yn ei chadeiryddiaeth hyd yn hyn, fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw—yn dod â’r pwyllgor at ei gilydd, gan ein galluogi i weithio mewn ffordd lle y ceir consensws o amgylch y bwrdd i ni allu bod mor effeithiol ag y gallwn? Hoffwn dalu teyrnged i chi, Lynne, am eich gwaith, eich ymroddiad a’ch ymrwymiad i’r dasg.
Fel y mae’r Cadeirydd wedi dweud eisoes, cafwyd llawer iawn o drafod a dadlau o amgylch y bwrdd ynglŷn â ble y dylai pwyslais gwaith y pwyllgor fod. Yn gynnar iawn yn y trafodaethau hynny, penderfynasom fel pwyllgor y buasem yn parhau i fynd ar ôl y materion hynny a etifeddwyd gan gyn-bwyllgorau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod holl bwyllgorau’r Cynulliad yn dod yn ddoethach ynglŷn â gwneud gwaith dilynol ar argymhellion a gwaith y maent wedi ei wneud yn y gorffennol. Mae’r Cadeirydd wedi cyffwrdd â nifer o’r rhain, gan gynnwys ein gwaith dilynol ar Donaldson, a cheir eraill, wrth gwrs, ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, gofal newyddenedigol ac ystod eang o faterion a fu’n destun gwaith yn y gorffennol. Rwy’n falch iawn fod y Cadeirydd wedi cofnodi ei phenderfyniad i wneud yn siŵr fod y rheini yn ôl ar agenda’r pwyllgor yn barhaus, fel y gallwn ddwyn y Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i gyfrif am eu cyflawni ac am addewidion ar y materion hynny.
Roeddwn yn falch iawn mai un o’r darnau cyntaf o waith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yw mater eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Gwyddom fod rhywfaint o ddiogi wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf wrth geisio mynd i’r afael â’r broblem hon a chael gwasanaeth priodol, cwbl weithredol ledled Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, un sy’n deg o ran mynediad, ac rwy’n falch iawn, er bod yr adroddiad hwnnw heb gael ei gyhoeddi eto, ei fod eisoes wedi cael effaith wrth annog y Llywodraeth, a llywodraeth leol yn ogystal, i ddod at ei gilydd a symud pethau ymlaen yn sylweddol. Ac rwy’n gwybod, o ran y gwaith yr ydym yn ei wneud ar grantiau Sipsiwn/Teithwyr a lleiafrifoedd ethnig mewn addysg, fod y gwaith hwnnw hefyd yn tynnu sylw at rywbeth nad yw wedi cael llawer o sylw, a dweud y gwir, yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n bwysig taflu goleuni ar y materion penodol hyn.
Rhaid i mi ddweud, rwyf wedi bod yn siomedig gydag ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ar rai o’n hymholiadau o bryd i’w gilydd. Rydym wedi gwneud gwaith gwirioneddol wych, rwy’n meddwl, ar wasanaethau ieuenctid a gwaith ieuenctid ledled Cymru. Ac mae wedi bod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru o bosibl wedi bod yn gwneud penderfyniadau cyn i ganlyniad ein gwaith gael ei gyhoeddi—penderfyniadau byrbwyll weithiau, y bu’n rhaid iddi gamu’n ôl oddi wrthynt wedyn. Ac rwy’n meddwl bod yna wers yno i Lywodraeth Cymru.
Mae gennym rôl i’w chwarae fel seneddwyr yn y Cynulliad, gan helpu i gyfrannu at lunio’r gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, ac rwy’n meddwl bod gennym gyfraniad defnyddiol iawn i’w wneud. Felly, mae hynny wedi bod ychydig yn siomedig, ac roeddwn yn falch iawn fod y Cadeirydd wedi mynegi teimladau cryf y pwyllgor yn dda iawn pan nad oedd pethau fel y dylent fod, er mwyn dod â phethau yn ôl ar y trywydd iawn, o ran y berthynas bwysig honno.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi’r ymrwymiad y mae’r Cadeirydd wedi’i roi heddiw hefyd i weithio’n agos iawn ac yn ofalus gyda phlant a phobl ifanc, i wneud yn siŵr fod eu lleisiau’n cael eu clywed yn rheolaidd yn rhaglen waith y pwyllgor. Gwnaethom waith allgymorth fel rhan o’n hymchwiliad i’r gwasanaethau ieuenctid, ond wrth gwrs, mae’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn rhoi cyfleoedd pellach i ni wneud hynny. Ac mae’r Cadeirydd yn hollol gywir i nodi’r ffaith, pan fydd gan y Cynulliad Cenedlaethol senedd ieuenctid i Gymru, y bydd yn gallu cydweithio â hi, bydd hynny’n rhoi fforwm arall i ni, un y gellir ei defnyddio’n adeiladol i sicrhau bod safbwyntiau ein plant a’n pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein gwaith.
Felly, nid oes gennyf gyfres o gwestiynau ar gyfer y Cadeirydd, yn anffodus, ac eithrio dweud, ‘Daliwch ati gyda’r gwaith ardderchog.’ Rwy’n falch iawn gyda’r gwaith cychwynnol a wnaed, ac yn sicr mae gennych ymrwymiad fy mhlaid i gydweithio gyda chi, ac aelodau eraill y pwyllgor, i sicrhau ein bod yn gwneud gwaith effeithiol.
Nid wyf yn gwybod beth i’w ddweud, ar wahân i ‘diolch’. [Chwerthin.] Diolch i chi, Darren, am eich geiriau caredig. A gaf fi ddweud fy mod yn awyddus tu hwnt i’r pwyllgor weithio gyda’i gilydd fel tîm? Cawsom ddiwrnod cynllunio strategol rhagorol, ac roedd yn amlwg iawn ein bod i gyd yn awyddus iawn i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu parhau yn yr un modd ag y dechreusom, a gwneud hynny. A wyf fi i fod i ymateb i’r pwyntiau eraill?
Os dymunwch. Ond fel y dywedodd yr Aelod nid oedd unrhyw gwestiynau, dewiswch chi.
Iawn, diolch.
Wel, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, a chyd-fynd yn llwyr â’r sylwadau a wnaed yn gynharach am eich rôl yn cyflawni eich swydd fel Cadeirydd? Ac rwy’n cytuno’n llwyr â chynnwys eich datganiad. Ond rwy’n cynnig ychydig o sylwadau—a chwestiynau—nid ar ymchwiliad penodol, efallai, ond yn sicr ar lefel thematig.
Nawr, rwy’n arbennig o awyddus i’r pwyllgor archwilio’r cyfleoedd i Lywodraeth Cymru bontio’n fwy pendant at ymagwedd ataliol tuag at ei gwaith, o ran buddsoddi a pholisi, ar draws ehangder y polisïau sy’n ymwneud â’r pwyllgor wrth gwrs. Nawr, mae Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, yn siarad yn gynyddol am hynny, symud i’r cyfeiriad hwnnw, ac yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yma, sydd, a bod yn deg, wedi bod yn eithaf brwd ynglŷn â hyn, a dweud y lleiaf, ac rwy’n croesawu hynny. Ond a ydych yn cytuno y gellid gwneud mwy i weithredu a chyflymu symudiad i’r cyfeiriad hwnnw, a beth y credwch y gall y pwyllgor gyfrannu, er mwyn annog y Llywodraeth i symud, yn gynyddol, i’r cyfeiriad hwnnw?
Nawr, maes allweddol arall wrth gwrs, rwy’n credu, yw cyfrannu at sicrhau mwy o barch cydradd rhwng addysg a chymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Ac rwy’n gobeithio y gall hyn fod yn etifeddiaeth bwysig gan y Cynulliad hwn, yn sicr o ran ymagwedd fwy hirdymor, ac yn sicr mae’n rhywbeth y dylem fod yn dod ato, yn fy marn i—neu’n mynd ar ei drywydd, dylwn ddweud—fel pwyllgor. A hoffwn glywed eich barn ynglŷn â sut y credwch y gallwn geisio gwneud hynny yn y modd mwyaf effeithiol.
Yn drydydd, ar nodyn llai cadarnhaol, mewn perthynas â’n hymchwiliad ar waith ieuenctid, ac rydym eisoes wedi clywed cyfeiriad ato—a hoffwn ddatgan buddiant fel un o lywyddion anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—a gaf fi ofyn a ydych yn rhannu fy siom, ar ôl ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar dri achlysur gwahanol, ein bod yn dal i aros am atebion i chwe chwestiwn eithaf uniongyrchol, eithaf syml am y ffordd y gwnaed y penderfyniad ynglŷn â chyllid Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol? Anfonwyd y llythyr cyntaf yn gynnar ym mis Tachwedd, llythyr arall ym mis Rhagfyr. Rydym wedi cael ein gorfodi unwaith eto i ysgrifennu y mis hwn, ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros am atebion. Os yw’r pwyllgor yn mynd i gyflawni ei rôl yn craffu ar Lywodraeth Cymru, o ran dwyn Gweinidogion i gyfrif, yna mae ymatebion osgoilyd o’r fath gan y Gweinidog, nad ydynt yn gwneud unrhyw ymdrech mewn gwirionedd i ateb y cwestiynau a ofynwyd gennym, nid yn unig yn rhwystro ein gwaith, ond yn gyfan gwbl annerbyniol yn fy marn i. Felly, a ydych yn rhannu fy siom yn hynny o beth? Ac yn ail, pa gamau yr ydych yn argymell y dylai’r pwyllgor eu cymryd os byddwn, ar ôl gofyn am y trydydd tro, yn dal i fethu cael atebion i’n cwestiynau?
Yn olaf, rwy’n gobeithio y gall y pwyllgor adlewyrchu egwyddorion craidd gwaith ieuenctid drwy ein gwaith, o ran cynnig profiadau addysgiadol, mynegiannol, cynhwysol a chyfranogol sy’n grymuso i bobl ifanc. Ac fe gyfeirioch at yr ymgysylltiad ystyrlon iawn â phobl ifanc a fydd—ac sydd wedi bod, ac yn parhau i fod—yn nodwedd ganolog o’n gwaith. Ond rwy’n meddwl tybed a allwn fynd â hynny ymhellach. A allem, er enghraifft, ddirprwyo’r dewis o ymchwiliad i bobl ifanc yn y dyfodol? Gallem ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc gysgodi aelodau’r pwyllgor mewn rhyw ffordd? A ddylid cael gweledigaeth i bobl ifanc ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, efallai fel rhan o’r cynulliad arfaethedig ar gyfer pobl ifanc, fel y gallwn fanteisio o ddifrif ar gyfraniad plant a phobl ifanc yn ein trafodaethau fel pwyllgor dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod?
Hoffwn ddiolch i Llyr am ei sylwadau caredig i mi, a diolch iddo hefyd am ei gwestiynau, a byddaf yn gwneud fy ngorau i’w hateb. Cytunaf yn llwyr mewn perthynas ag atal. Rydym yn gwybod ei fod yn gwbl allweddol ym mhob math o feysydd, ac mae’n rhywbeth y mae angen i ni geisio gwneud mwy ohono bob amser. Rwy’n meddwl mai dyna un o’r rhesymau pam y bydd ein hymchwiliad i’r 1,000 diwrnod cyntaf mor bwysig, oherwydd gwyddom fod y ddwy flynedd gyntaf honno o fywyd plentyn yn gwbl allweddol, ac rwy’n gobeithio y gallwn ychwanegu gwerth at y gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn i geisio gwneud hwnnw’n amser pan allwn ganolbwyntio ar atal.
Y maes arall, wrth gwrs, yw gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Rydym yn gwybod bod llawer o blant a phobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at CAMHS arbenigol nad ydynt angen CAMHS arbenigol o bosibl, a dylent fod yn cael cymorth yn y system ysgolion, drwy wasanaethau ieuenctid. Ac rwy’n meddwl bod y gwaith a wnawn yn craffu ar Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn helpu, gobeithio, i roi hwb i’r gwaith hwnnw mewn ysgolion, mewn canolfannau ieuenctid, a chyda chwnselwyr, ac yn gwneud cyfraniad pwysig at hynny.
Rwy’n cytuno â chi ynglŷn â phwysigrwydd parch cydradd rhwng addysg alwedigaethol ac addysg. Fel y gwyddoch, nid yw’n faes yr ydym wedi treulio llawer o amser arno hyd yn hyn, ar wahân i ystyried pethau fel Diamond, lle y gallodd y pwyllgor groesawu’r pwyslais a roddodd yr Athro Diamond ar gyllido myfyrwyr mewn hyfforddiant galwedigaethol hefyd. Ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu parhau hynny. Hoffwn ei gweld yn elfen mewn llawer o’n hymholiadau, ac fe fyddwch yn gwybod yn ein gwaith craffu cynnar ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, mai un o’r materion sy’n codi’n rheolaidd yw gofyn pam nad yw’r Bil yn cwmpasu pethau fel prentisiaethau. Ac rwy’n credu bod angen i ni barhau i wneud hynny, mewn gwirionedd, i brif ffrydio i mewn i’n holl waith.
O ran y pwyntiau a godwyd gennych ynglŷn â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, yn amlwg roeddwn yn rhannu pryderon y pwyllgor ynglŷn â’r ffordd y cafodd y ddeialog gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol ei thrin. Roeddwn yn glir iawn am hynny ar y pryd, ac roeddwn yn awyddus iawn i fynd ar drywydd y pryderon hynny gyda’r Gweinidog. Yn amlwg, byddai wedi bod yn well pe baem wedi cael atebion gonest o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod Gweinidogion yn ymgysylltu mor agored â phosibl gyda phwyllgorau. Gwn fod y Gweinidog wedi cael ein llythyr diweddaraf, ac rwy’n mawr obeithio y byddwn yn awr yn cael ateb pendant a’n bod yn gallu symud ymlaen, mewn gwirionedd, i ystyried yr hyn sy’n fater enfawr, sef holl ddyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.
Ac yna, yn olaf, rwy’n meddwl bod eich pwyntiau ynglŷn â phobl ifanc a’r rhan y maent yn ei chwarae yn bwysig iawn. Gwn fod y pwyllgor diwylliant a’r cyfryngau wedi cynnal ymarfer mewn ymgysylltu â’r cyhoedd, gan ofyn i bobl ddewis ymchwiliad, a buaswn yn sicr yn frwdfrydig iawn ynglŷn â gwneud hynny gyda phobl ifanc. Rwyf hefyd yn awyddus tu hwnt, mewn gwirionedd, i edrych ar unrhyw bethau arloesol y gallwn roi cynnig arnynt, megis cyfleoedd cysgodi neu efallai gael pwyllgor cysgodi hyd yn oed. Hoffwn ein gweld yn cael pobl ifanc i mewn yma a’u cynnwys. Rwy’n credu bod unrhyw beth sy’n annog pobl ifanc i gymryd rhan yn mynd i fod yn hanfodol bwysig, yn enwedig gyda’r heriau sy’n ein hwynebu wrth symud ymlaen.
Os caf ofyn dau gwestiwn yn ymwneud â’ch datganiad: rydych yn cyfeirio at ymchwiliad y pwyllgor i’r canlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Tybed a allwch ddweud wrthyf a gymeroch dystiolaeth gan Ysgol Uwchradd John Summers yn Sir y Fflint, sydd wedi chwarae rhan fawr ac arweiniol wrth ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr leol a gwella canlyniadau addysgol i bobl ifanc? Mae’r gymuned a’r ysgol wedi mynegi pryderon nad yw hynny wedi’i gynnwys yn y penderfyniadau ynglŷn â chau’r ysgol, a allai effeithio’n andwyol ar y cysylltiad a gafwyd â’r gymuned.
Yn ail ac yn olaf, fe gyfeirioch at y craffu a fydd yn parhau gyda’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Fe gyfeirioch at blant, yn gwbl briodol, yn chwarae rhan, a rhanddeiliaid ac ymarferwyr. Nid ydych yn sôn am rieni. A allwch gadarnhau y bydd rhieni yn cymryd rhan er mwyn i chi allu rhannu eu profiad ymarferol o bryder y gallai hyn arwain, ar sail y profiad hyd yn hyn, i ddogni, os na chaiff ei drin yn briodol, lle y mae’r symud i ffwrdd o ddatganiadau i weithredu ar ran yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy, wedi arwain, mewn rhai achosion, at nifer fwy o waharddiadau, yn enwedig ymhlith plant ar y sbectrwm awtistig ac fel arall, ac yn aml mae llesteirio mynediad at wasanaethau?
Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am y cwestiynau hynny. Hyd y gwn i, ni chawsom unrhyw dystiolaeth gan ysgol John Summers oherwydd bod ein hymchwiliad yn ymwneud yn benodol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i uno’r cronfeydd a roddwyd i gefnogi dysgu Sipsiwn/Teithwyr a dysgu lleiafrifoedd ethnig i mewn i un grant mawr, a elwir yn grant gwella addysg. Bu’n ymchwiliad gweddol fyr ac rydym i fod i adrodd cyn bo hir. Fe ofynnaf i’r gwasanaeth pwyllgorau a gawsom rywbeth yn ysgrifenedig o bosibl, ond nid wyf yn credu ein bod. Roedd yn ymchwiliad ag iddo ffocws manwl iawn.
Diolch i chi am eich pwyntiau am y Bil ADY. A dweud y gwir, roedd fy natganiad yn cyfeirio at ymgynghori â rhieni. Mae gennym ddigwyddiadau gyda rhieni yng ngogledd a de Cymru a chynhelir ymgynghoriad ysgrifenedig yn ogystal, a fydd hefyd yn gyfle i rieni. Wrth gwrs, mae rhieni’n cymryd rhan weithredol iawn yn rhai o’r sefydliadau sy’n rhoi tystiolaeth.
Rydych wedi gwneud y pwynt o’r blaen, rwy’n gwybod, am y perygl o wanhau’r gefnogaeth drwy symud i system lle y mae gan bawb gynllun dysgu unigol ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn ei archwilio. Mae wedi codi ym mhob cyfarfod, mewn gwirionedd, yn y gwaith craffu hyd yn hyn, ac rwy’n meddwl y gallaf ddweud bod pawb eisiau i’r Bil hwn weithio. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol ddigynsail mewn gwirionedd i gael rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Ac rwy’n siŵr fod y Llywodraeth yn awyddus iawn i gael rhywbeth sy’n gweithio. Gallaf yn sicr roi’r ymrwymiad y byddwn i gyd yn craffu ar hynny’n ofalus iawn. Mae hyn yn ymwneud â gwella pethau i blant a phobl ifanc ac nid dogni mewn unrhyw fodd neu wneud pethau’n waeth mewn unrhyw ffordd.
Diolch yn fawr am ddyfalbarhau drwy hynny gyda’ch llais fel y mae. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor yn parhau â’i waith ac y byddwch yn dod yn ôl atom gyda mwy o ddatganiadau. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny.