Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 25 Ionawr 2017.
Croesawaf y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod yn ddadl amserol iawn, o ystyried y trafodaethau sy’n parhau yng Nghymru am rôl dinasoedd a’r rôl y gall dinasoedd ei chwarae’n adfywio rhanbarthau Cymru. Rwyf am gyflwyno’r achos dros ddau ddull o weithredu yn y drafodaeth hon heddiw. Y cyntaf yw’r achos dros edrych ar ddinas-ranbarthau, nid dinasoedd eu hunain yn unig. Yn amlwg, rwy’n siarad fel Aelod dros etholaeth sydd o fewn un o’n dinas-ranbarthau, ond nid yn ei ganol yn ddaearyddol. Felly, mae’r materion hyn yn bwysig i fy etholwyr sy’n edrych ar y ddadl hon gyda golwg ar gael cyfleoedd economaidd yn y dyfodol.
Mae’r strategaeth sy’n canolbwyntio ar ddinasoedd yn seiliedig ar y syniad o grynodref: po fwyaf o fusnesau a gweithgarwch economaidd sydd gennych yn agos at ei gilydd yn ddaearyddol, y mwyaf tebygol y byddwch o gael twf. Mae honno’n ddamcaniaeth economaidd hirsefydledig. Mae rhai’n ei hamau ac ar ryw ystyr, caiff ei herio fwyfwy gan rôl technoleg a chysylltedd digidol ac yn y blaen. Mae’n gwestiwn ai’r agosrwydd daearyddol ffisegol hwnnw yn dal i fod yw’r glud a fu mor ddefnyddiol yn y gorffennol. Ond mae’n ymddangos i mi, beth bynnag fydd canlyniad y ddadl, fod y syniad o ddinas-ranbarth lle y mae gennych ddinas graidd sy’n gyrru twf economaidd, y gobeithiwn y bydd y polisi wedyn yn lledaenu i ardaloedd cyfagos, yn amlwg, mae’n ymddangos i mi, yn ffordd ymlaen ymarferol sy’n tarddu o synnwyr cyffredin.
Yr agwedd arall rwyf am gyflwyno’r achos drosti heddiw yw y dylai’r math o dwf a welwn mewn dinasoedd a dinas-ranbarthau fod yn dwf cynhwysol, lle y gall yr holl breswylwyr gymryd rhan yn deg yn y cyfleoedd a ddaw yn sgil polisïau economaidd llwyddiannus a gweithgarwch economaidd llwyddiannus. Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan Sefydliad Joseph Rowntree ar dwf cynhwysol mewn dinasoedd. Yn union fel yr oedd David Melding yn nodi nifer o enghreifftiau rhyngwladol, edrychodd Sefydliad Rowntree ar ddinasoedd fel Barcelona, Helsinki, Malmö ac Efrog Newydd o ran rhai o’u strategaethau llwyddiannus i sicrhau bod yr holl drigolion yn gallu cymryd rhan mewn twf.
Cafwyd dwy strategaeth gyffredinol. Mae un yn well dosbarthiad o’r cyfleoedd sy’n bodoli eisoes, sef drwy well cysylltedd, boed hynny’n drafnidiaeth neu’n gysylltedd digidol. Yr ail strategaeth—strategaeth fwy uchelgeisiol efallai—yw ceisio newid y model economaidd ei hun i geisio newid natur y farchnad swyddi, y farchnad lafur yn lleol, a chanolbwyntio o ddifrif ar gynyddu nifer y cyfleoedd swyddi lled-fedrus. Mae’r dinasoedd sydd wedi llwyddo wedi defnyddio cyfuniad o bolisïau gweddol sefydledig, er enghraifft, hyrwyddo’r defnydd o fenter gymdeithasol yn yr economi lleol, gan ddefnyddio cymalau cymdeithasol yn y broses caffael cyhoeddus, ac ymyrraeth yn seiliedig ar le, y soniodd David Melding amdano, sy’n edrych ar yr holl wariant, er enghraifft, sy’n digwydd mewn cymdogaeth benodol neu ran benodol o’r dinas-ranbarth, ac edrych yn ddeallus ar sut y gellir ei wario i gael mwy o effaith o bosibl.
Y pwynt olaf, yn bwysig iawn, yw’r cwestiwn ynghylch cynnwys dinasyddion. Gall hynny fod o safbwynt comisiynu. Mae Lambeth, er enghraifft, wedi cymryd y cam dewr iawn o greu cwmni cydweithredol i ddarparu gwasanaethau ieuenctid, er enghraifft. Felly, mae rhai enghreifftiau beiddgar iawn i’w cael. Gan adeiladu ar hynny, rwyf eisiau edrych ar un agwedd benodol, sef rôl cyrff cyhoeddus yn ein dinasoedd a’n dinas-ranbarthau, a’r gallu sydd ganddynt i yrru rhai o’r pethau rydym wedi cyffwrdd arnynt heddiw. Yn aml yng Nghymru, mae pobl yn nodi bod maint y sector cyhoeddus yn fwy, yn gyfrannol, nag mewn rhannau eraill o’r DU, ac fel arfer edrychir ar hynny mewn ffordd negyddol, ond mewn gwirionedd mae’n un o’n hasedau. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, ond maent hefyd yn weithredwyr economaidd sylweddol yn eu heconomïau lleol. Ac os edrychwch arnynt fel sefydliadau angor, credaf y dylem edrych am fframwaith lle nad ydynt yn caffael ar sail cost y contract, na hyd yn oed ar sail weithrediadol mewn gwirionedd, ond yn fwy uchelgeisiol, gan edrych ar sut y mae eu gweithgaredd economaidd, ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill efallai, yn gallu meithrin cadwyni cyflenwi lleol mewn gwirionedd a datblygu cyflenwyr lleol. Bydd hynny’n gofyn am gydweithredu rhwng y byrddau iechyd a’r prifysgolion ac awdurdodau lleol, ond rwy’n meddwl y dylem edrych am y math hwnnw o uchelgais. Rydym wedi gweld enghreifftiau o hynny yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, yn Cleveland, lle y mae hynny wedi gweithio’n llwyddiannus.
Hoffwn hefyd ein gweld yn edrych ar y data sydd ar gael i ni o ran gwariant cyhoeddus. Dylem fod mewn sefyllfa i edrych ar sail cod post ar yr holl wariant cyhoeddus sy’n digwydd yn yr ardal honno, a gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau ei fod yn cael cymaint o effaith ag y gall. Yn olaf, yn fyr, unwaith eto ar fater data, oni fyddai’n wych pe baem yn cael cyfle i ryddhau’r holl ddata sydd gennym am y ffordd y mae ein dinasoedd a’n dinas-ranbarthau’n gweithio, i drosglwyddo hynny i’r cyhoedd a gofyn i bobl ddod â’u syniadau ynglŷn â sut y gallant wella—neu sut y gallant ofyn i’r gwasanaethau cyhoeddus a’r Llywodraeth wella—yr ardaloedd lle y maent yn byw? Felly, rwy’n credu bod yna agenda yma sy’n agenda lawn dychymyg, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn.