Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n falch o siarad am yr hyn y credais ei fod yn gynnig cydsyniol—nid wyf mor siŵr erbyn hyn, ar ôl gwrando ar sylwadau Neil McEvoy, ond rwy’n gobeithio y gall pob plaid yn y Siambr gytuno ynghylch rhai o ddaliadau allweddol y cynnig hwn. Mae hon wedi bod yn wythnos hanesyddol, wedi’r cyfan: hanner canmlwyddiant creu tref newydd Milton Keynes—byd newydd dewr o ryddid, neu diriogaeth rwystredig y gylchfan, yn dibynnu ar eich safbwynt a’ch barn am yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn ein dinasoedd, ac wedi bod ers y rhyfel. Rydym yn trafod llawer o faterion gwahanol yn y Siambr, ac mae llawer ohonynt yn effeithio ar fywydau pobl—rhai yn fwy na’i gilydd. Ond mae’r amgylchedd yn syth o’n cwmpas yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau, yn ein datblygiad fel bodau dynol, ein hapusrwydd a’n lles. Oherwydd hyn, mae adnewyddu ac adfywio trefol wedi’u cysylltu’n agos â lles, a chydnabuwyd hynny ers amser hir iawn, yn ôl i ddatblygiad yr ardd-ddinas gyntaf yn y DU yn Letchworth, yn y 1900au cynnar, a phan edrychwyd arno wedyn wrth ailddatblygu dinasoedd newydd ar ôl yr ail ryfel byd yn rhaglen Llywodraeth Clement Attlee ar gyfer trefi newydd.
Rydym yn trafod y pwnc hwn heddiw yn yr adeilad anhygoel hwn y cyfeiriodd David Melding ato yn ei sylwadau agoriadol fel patrwm o gynaliadwyedd ym Mae Caerdydd, mewn ardal a drawsnewidiwyd o ganlyniad i bolisïau adfywio canol dinas a ddechreuwyd yn y 1980au, wedi’u harwain, yn y dyddiau hynny, gan gyn-Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Heseltine. Felly, mwy na thebyg fod hwn yn lleoliad addas iawn i drafod i ble yr awn o’r fan hon a sut y gwnawn y gorau o’n hamgylchedd trefol yng Nghymru a sicrhau’r math o fanteision y gwyddom eu bod o fewn cyrraedd, gyda’r ymagwedd gywir a’r meddylfryd cywir.
Rwy’n credu ei bod yn briodol ein bod yn trafod hyn yn sgil llofnodi bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy’n ddigwyddiad hanesyddol mor bwysig ar gyfer adfywio rhannau o dde Cymru, megis Cymoedd y De ac yn wir, rhai o’r rhannau tlotaf o’n hardaloedd gwledig, sydd mor aml yn cael eu hesgeuluso wrth ystyried adfywio. Nid mater o adfywio ardaloedd trefol yn unig yw hyn; mae angen adfywio ein hardaloedd gwledig yn ogystal ac o ganlyniad i’r fargen ddinesig, bydd eu tynged wedi’u cysylltu mewn llawer o ffyrdd.
Gosododd David Melding yr olygfa ar gyfer y ddadl hon gyda chyflwyniad eang iawn. Os caf ganolbwyntio ar yr elfen drafnidiaeth yn y ddadl, y soniodd ef amdani, ac yn benodol, yr elfen drafnidiaeth o’r fargen ddinesig, am eu bod yn perthyn yn agos, rwy’n meddwl, ac yn anad dim, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo cerdded a beicio yng Nghymru. Yn y pen draw, mae hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar fathau eraill o drafnidiaeth, mathau o gludiant, yn uwch i fyny’r gadwyn. Felly, os na allwch gael cerdded a beicio yn iawn, ni allwn gael yr elfennau eraill yn gywir ychwaith, oherwydd bydd gormod o ddibyniaeth arnynt.
Mae’n rhaid gwneud gwelliannau i’r seilwaith os yw prifddinas-ranbarth Caerdydd yn mynd i hyrwyddo teithio gwyrdd yn llwyddiannus, ac mae cryn dipyn o amser bellach ers i ni basio Deddf Teithio Llesol (Cymru)—credaf mai yn ôl yn 2013 y gwnaed hynny. Felly fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, fy mhryder oedd y buasai Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn dihoeni ar silff yn rhywle, ac nid yn gwella pethau allan yno yn ein cymunedau mewn gwirionedd. Iawn, wel, rydym wedi bod wrthi ers dwy flynedd ac rwy’n credu nad oes modd barnu o hyd pa mor llwyddiannus y bydd, ond rwy’n meddwl mai un peth yr ydym i gyd yn sylweddoli fwyfwy yw bod arnom angen i’r Ddeddf honno lwyddo; mae angen hyrwyddo ac annog cerdded a beicio.
Edrychodd y cyn-Bwyllgor Menter a Busnes ar docynnau integredig hefyd—fel y disgrifiodd yr Athro Stuart Cole y peth, rhywbeth cythreulig o anodd i’w gyflawni. Mae integreiddio gwasanaethau yn gwneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn symlach, yn hyblyg ac yn fwy cyfleus i deithwyr, sy’n gallu cael cysylltiad di-dor rhwng teithio ar drenau a bysiau. Yn y sefyllfa honno, buasai gan deithwyr fwy o wybodaeth o ba mor helaeth y gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn eu hardal a gall annog mwy o bobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn anffodus, fel y gwyddom, diddymwyd cynlluniau peilot fel Go Cymru cyn iddynt gael eu traed oddi tanynt, fel petai. Yn y dyfodol, mae angen i ni ddatblygu tocynnau mwy integredig, ar ba ffurf bynnag, a bydd technoleg newydd yn caniatáu ar gyfer mathau newydd o drafnidiaeth integredig o fath nad ydym wedi’i ystyried yn iawn eto.
Wrth ddod i ben, buaswn yn dweud bod Neil McEvoy wedi paentio darlun eithaf llwm o ble rydym ar hyn o bryd yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd yn benodol. Wel, os ydych yn meddwl bod pethau’n ddrwg yn awr—fe sonioch am y 1970au, Neil, ac mae’n anodd credu bod adroddiad Buchanan, bryd hynny, yn cynghori’r gwrthwyneb i’r hyn yr ydym yn sôn amdano yn awr. Roedd yn cynghori y dylid cau’r rheilffyrdd yng Nghaerdydd, dymchwel miloedd o dai, a chreu rhwydwaith traffyrdd trefol, gan gynnwys yr Hook Road fondigrybwyll yr oedd pawb yn ei chasáu. Roedd mor helaeth fel y byddai hynny i gyd wedi cymryd tan 2001 i’w gwblhau. Rhodfa’r Dwyrain yn unig a adeiladwyd o’r rhaglen honno yng Nghaerdydd yn y diwedd. Felly, rwy’n meddwl mai’r wers yw nad yw cynllunwyr bob amser yn iawn, nid yw Llywodraethau bob amser yn iawn, ond rwy’n meddwl bod Llywodraethau yn ceisio, ac rwy’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet hwn yn gwneud ei orau i sicrhau nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol, ein bod yn ystyried ble rydym ac yn symud ymlaen at ddyfodol mwy disglair, gwell, gwyrddach a mwy cynaliadwy.