Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n datgan buddiant, gan y bydd rhai o’r materion yn cyffwrdd ar Gaerdydd, ac rwy’n gynghorydd yng Nghaerdydd. Hoffwn hefyd ddymuno Diwrnod Santes Dwynwen hapus i bawb. Rwy’n gobeithio bod pawb yn mynd â’u partner allan heno ac yn mynd â hwy am bryd o fwyd ac yn y blaen.
Yn ôl i hyn—dinasoedd gwyrdd. Rwy’n croesawu’r ddadl ar ddinasoedd gwyrdd. Bydd fy mhlaid yn cefnogi’r cynnig, ond os yw Llafur yn pleidleisio o blaid hyn, rwy’n meddwl mai dyna fydd y rhagrith pennaf yn y pen draw, o ddifrif. Mae’n wir mai’r duedd ryngwladol yw gwerthuso dinasoedd ar feini prawf yn ymwneud â gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a’u cynaliadwyedd, ond nid yw hynny’n digwydd yng Nghymru. Mae cynghorau Llafur ar hyd a lled Cymru wedi cynllunio i ddinistrio ardaloedd tir glas drwy gynlluniau datblygu lleol, fel y soniodd fy nghyd-Aelod yno. Ond rwy’n credu bod cynlluniau difa lleol, fel y’u gelwir yn fwy cywir—. Yma yng Nghaerdydd, ceir cynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai ar gaeau gwyrdd. Mae’n mynd i ddifetha mynediad at ofod agored glân, mae’n mynd i ddinistrio coetiroedd hynafol, ac mae’n rhoi diwedd ar unrhyw obaith o reoli traffig yn effeithiol yn y ddinas hon, oherwydd bydd o leiaf 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd. Gyda ‘carmagedon’, gallwch anghofio popeth am ansawdd yr aer. Mae cymaint o bobl eisoes yn marw o lygredd aer yng Nghymru, a bydd cynlluniau Llafur yn y ddinas hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn marw cyn pryd, gan mai llygredd aer yw’r ysmygu newydd.
Mae cyfranogiad dinasyddion mewn cynlluniau datblygu lleol ar draws Cymru wedi cael ei anwybyddu. Eto, yn y ddinas hon, etholwyd y Blaid Lafur i ddiogelu safleoedd tir glas—roeddent yn dweud y buasent yn gwneud hynny. Celwydd oedd hynny fel digwyddodd hi, oherwydd o fewn misoedd o ennill yr etholiad yn 2012, roeddent yn cyhoeddi cynlluniau i adeiladu dros ddarnau helaeth o gaeau gwyrdd yng ngorllewin y ddinas hon. Cynhaliwyd ymgynghoriadau yng Nghaerdydd, a gwrthododd bron bawb gynllun datblygu lleol Caerdydd. Cafwyd refferenda, pleidleisiodd miloedd—miloedd—o bobl yn erbyn y cynllun datblygu lleol, ond cawsant eu hanwybyddu.
Nid yw canologrwydd y cysyniad o ddinas-ranbarth yn bodoli, gyda’r cynlluniau datgysylltiedig hyn ledled Cymru. Mae cynghorau lleol yn bwrw ymlaen heb unrhyw ystyriaeth i’r dinas-ranbarth yma, heb unrhyw ystyriaeth i’r hyn sy’n digwydd mewn awdurdodau cyfagos. Diolch i’r drefn, drwy weithgaredd ymgyrchwyr Plaid Cymru, cafodd cynllun datblygu lleol Caerffili ei daflu allan. Yn y Fro, mae gan ein cynghorwyr bryderon enfawr yno hefyd ynglŷn â chynlluniau Llafur i ddinistrio cefn gwlad. Yn y gogledd, bydd Bodelwyddan yn cael ei lyncu gan ddatblygiad tai newydd, bydd y caeau gwyrdd wedi mynd, ac efallai y bydd yr iaith Gymraeg wedi mynd hefyd. Cynllunio rhanbarthol yw’r ateb, ond y gwir syml yw nad yw’n digwydd.
Y broblem yw na wnaiff Llafur fynd i’r afael â’r problemau ychwaith. Pan fyddaf yn sôn am y cynllun datblygu lleol yng Nghaerdydd, caf fy sarhau am fod yn erbyn i bobl ddod i mewn, hyd yn oed gan y Prif Weinidog. Ai dyna beth y mae Llafur yn ei feddwl o’r miloedd o bobl a bleidleisiodd yn erbyn y cynllun datblygu lleol yn y refferenda? Rwy’n credu mewn lleoliaeth, ac rwy’n rhoi fy etholwyr yn gyntaf. Dylem fod yn darparu ar gyfer angen lleol, sy’n synnwyr cyffredin—ac mae’n gwneud synnwyr yn amgylcheddol hefyd.
Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r Llywodraeth yn pleidleisio ar y cynnig hwn, ac os ydynt yn barod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr yma yn galw am ddinasoedd gwyrdd gyda gofod agored, yna ni allaf ond tybio y byddant yn cefnogi cynnig Plaid Cymru nos yfory ar Gyngor Caerdydd, yn galw am ddiddymu’r cynllun datblygu lleol, oherwydd rydym am ddiogelu’r caeau gwyrdd a’r gofod gwyrdd ac ysgyfaint gwyrdd y ddinas hon. Oherwydd os pleidleisiwch dros un, a bod eich cydweithwyr ar draws y ffordd yn pleidleisio yn erbyn y llall, yna mae hynny’n datgelu rhagrith enfawr mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl o ddifrif y buasai’n chwalu unrhyw fath o syniad fod eich plaid yn credu mewn cynaliadwyedd o gwbl. Ni fyddwn yn pleidleisio o blaid gwelliannau Llafur, am nad ydym yn pleidleisio dros eiriau gwag. Rydych yn gwneud un peth i mewn yma—rydych yn siarad am ansawdd aer—ac eto rydych yn mynd i roi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd, heb unrhyw seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae blynyddoedd nes y daw’r metro, a chawn weld a gaiff hwnnw ei wireddu hyd yn oed. Beth y dylem ei wneud yn y ddinas hon yw edrych ar atebion gwyrdd, sut y gall pawb fyw yng Nghaerdydd a mwynhau ein dinas, yn hytrach na dympio tai ar safleoedd tir glas a dinistrio cymunedau, fel yn y 1970au. Rydym yn yr unfed ganrif ar hugain yn awr, a dylem i gyd fod yn meddwl sut y gallwn ddiogelu ein hamgylchedd lleol, a byw mewn dinasoedd gwirioneddol wyrdd. Diolch yn fawr—diolch i chi.