Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 31 Ionawr 2017.
Yn gynharach y mis yma, mi gyhoeddwyd adroddiad diogelwch blynyddol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a oedd yn eithaf brawychus i’w ddarllen, mae’n rhaid i mi ddweud. Roedd y gofrestr risg yn dangos 13 risg ddifrifol, yn cynnwys eu methiant i gydymffurfio â gwahanol ddeddfwriaethau diogelu, neu fod yna berig gwirioneddol y byddai plentyn neu berson ar y gofrestr mewn risg yn methu â chael eu hadnabod pe bydden nhw’n mynychu’r uned frys, a allai wedyn arwain at niwed difrifol i’r unigolyn. Nawr, ar ôl blwyddyn a hanner o fod mewn mesurau arbennig, a ydych chi’n meddwl bod hynny’n dderbyniol?