Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 31 Ionawr 2017.
Wel, rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, nad yw’r bwrdd ei hunan yn barod i ddod mas o fesurau arbennig ar hyn o bryd. Ond, wrth ddweud hynny, rydym ni’n gwybod, wrth ystyried yn eang berfformiad y bwrdd iechyd, fod pethau wedi gwella. Fe welom ni hynny wrth edrych ar y fframwaith ym mis Tachwedd, lle roedd yn dangos bod gwaith da wedi cael ei wneud. Wrth gwrs, beth sy’n bwysig nawr yw sicrhau bod pob rhan o’r gwasanaeth sydd yn cael ei weithredu gan y bwrdd iechyd yn gwella yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi gwella ynglŷn â delio gyda chancr er enghraifft, a delio gyda amserau aros am brofion diagnosis.