Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 31 Ionawr 2017.
Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna am gadw’r gwasanaeth. Rydych chi wir yn arwain y ffordd yn y DU, ac rwy’n eich cymeradwyo am hynny. Ond wrth i ni adolygu nawr y gwasanaeth hwn sydd wedi cael llawer o lwyddiant cychwynnol, rwy’n meddwl ein bod ni efallai’n rhy ddibynnol ar hunanatgyfeirio—mae’n ymddangos mai dyna un o'r pethau sydd wedi dod i’r amlwg—ar hyn o bryd. Ac rwy’n meddwl y dylai hysbysu cyn-filwyr am y gwasanaeth hwn yn ystod y cam adsefydlu, wrth iddyn nhw symud i fywyd fel sifiliaid, fod yn un amcan allweddol. Gall yr adeg honno o fywyd fod yn anodd iawn ynddi ei hun, ond, wrth gwrs, efallai y bydd ganddynt wybodaeth wedyn a allai fod yn bwysig dros ben iddynt ychydig fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.