Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 31 Ionawr 2017.
Ie, rwy’n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Rydym ni’n gwybod bod lefelau uchel o fodlonrwydd â'r gwasanaeth a ddarperir i gyn-filwyr. Efallai, wrth gwrs—neu rwy’n meddwl y gallwn ni wneud hyn—y gallwn ni godi'r mater gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac, yn wir, y lluoedd arfog, i weld beth arall y gellid ei wneud i hysbysu cyn-filwyr bod y gwasanaeth ar gael, ac, wrth gwrs, i’w hannog i ofyn am help gan y gwasanaeth, yn hytrach na dal yn ôl. Ond byddaf—wel, bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn a ddywedwyd yn y Siambr, ac, os gallwn ni wneud mwy i wella cyfathrebu, i sicrhau y gall pobl elwa ar wasanaeth sydd â chyfraddau mor uchel o fodlonrwydd, yna byddwn yn gwneud hynny.