Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 31 Ionawr 2017.
Mae Theresa May, wrth gwrs, wedi rhoi beirniadaeth gyfeillgar i’r Arlywydd Trump eisoes mewn gwahanol ffyrdd, ac nid wyf yn gwrthwynebu bod yn onest gyda'n cynghreiriaid, ond mae gwahaniaeth mewn diplomyddiaeth rhwng beirniadaeth onest a roddir mewn ffordd gwrtais a phreifat a'r math o ddiplomyddiaeth megaffon sy’n ymwneud mwy â gorchest ac arddangos rhinweddau, yn y wlad hon, ar gyfer mantais wleidyddol gartref.