<p>Ymarfer Corff</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:58, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, bob bore Sadwrn am 9 a.m. ledled Cymru, mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn parkruns. Fe’u harweinir gan wirfoddolwyr, maen nhw'n cael eu hamseru a gall pobl fonitro eu cynnydd wrth iddyn nhw, gobeithio, wella eu hamseroedd dros y misoedd ac, yn wir, y blynyddoedd. Yng Nghasnewydd, ychwanegwyd at parkrun presennol Tŷ Tredegar yn ddiweddar gyda parkrun trefol canol y ddinas ar hyd glan yr afon. Cymerais ran mewn digwyddiadau diweddar a mwynheais y buddion fel y mae cymaint o bobl eraill yn ei wneud, Brif Weinidog, er bod fy llawenydd ynghylch cael amser personol gorau wedi cael ei leihau ychydig pan ddywedodd y gŵr a orffennodd o fy mlaen ei fod newydd gael clun newydd. [Chwerthin.] Ond, serch hynny, maen nhw'n ddigwyddiadau pwysig iawn ac rwyf wedi rhedeg amser gorau personol. Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod a thalu teyrnged i bwysigrwydd ac arwyddocâd y parkruns hyn, sydd yn gwneud cyfraniad cynyddol i gael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol ar hyd a lled Cymru gyfan?