<p>Ymarfer Corff</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:59, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, mi wnaf. Mae'n hynod bwysig bod pobl yn teimlo'n gyfforddus yn ymarfer corff mewn ffyrdd sy'n briodol iddyn nhw. Roedd dau bwynt yr oeddwn i’n ofni y byddai'n eu gwneud. Gwnaeth yr un cyntaf, sef ei fod wedi cymryd rhan mewn parkrun ei hun. Ni wnaeth yr ail, a chroesawaf hynny, sef fy ngwahodd i i ymuno ag ef ar parkrun. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod yn iawn y byddai’n sicr ar y blaen i mi yn hynny o beth. Ond rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod yn gallu annog pobl i ymarfer corff mewn ffyrdd newydd, ac mae parkruns, wrth gwrs, yn enghraifft ragorol o sut i wneud hynny.