Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 31 Ionawr 2017.
Mae’r cynllun o rwydweithiau Cymreig o ysgolion iach yn cefnogi ysgolion i ddatblygu cynlluniau er mwyn gwella iechyd plant yn yr ysgol. Mae 99 y cant o ysgolion yn rhan o’r rhaglen hynny, sef ysgolion sydd ddim yn ysgolion preifat. Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni’n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cefnogi plant i gario ymlaen gyda’u hymarfer nhw yn ystod gwyliau’r haf, wrth sicrhau bod yna bethau ar gael iddyn nhw eu gwneud i gadw’n iach.