Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 31 Ionawr 2017.
Brif Weinidog, gallai cynyddu mynediad at gefn gwlad i deuluoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol gynnig manteision sylweddol i iechyd a llesiant y genedl. Daeth yr ymgynghoriad ar wella cyfleoedd i gael mynediad at yr awyr agored i ben ar 2 Hydref 2015. Pryd fydd eich Llywodraeth mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion a fydd yn annog gweithgareddau fel beicio a marchogaeth, gan ddiogelu’r amgylchedd a bywoliaeth pobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad Cymru?