<p>Ymarfer Corff</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, gadewch i ni edrych ar Dewch i Gerdded Cymru: rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n sefydlu grwpiau cerdded ledled Cymru. Nod hynny yw cyflwyno cerdded i fywydau bob dydd pobl i atal dechrau cyflyrau fel clefyd y galon a gordewdra. Mae hynny’n ategu’r hyn yr ydym ni’n ei wneud eisoes. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble y cânt gerdded a hefyd bod pobl yn gwybod ble y cânt feicio, ac, wrth gwrs, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n ein helpu i ddatblygu’r dulliau hynny o ymarfer corff a thrafnidiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.