Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 31 Ionawr 2017.
Trwy ein gweithredoedd, rydym ni’n cael ein barnu ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i’r sector dur yng Nghymru: y cymorth ariannol yr ydym ni wedi ei ddarparu; a'r ffaith ein bod ni wedi ymgysylltu cymaint â Tata a chynhyrchwyr dur eraill, yn enwedig, gan ddangos iddyn nhw ein bod ni’n gweld dur fel rhan bwysig o economi Cymru. Prin yw’r cyfeiriadau at ddur yn y Papur Gwyrdd ei hun, er gwaethaf y sicrwydd yr ydym ni wedi ei glywed gan Lywodraeth y DU am ei bwysigrwydd canolog. Mae angen i ni weld mwy o fanylion am sut y bydd Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan i gefnogi'r diwydiant dur.