Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 31 Ionawr 2017.
O ran eich Papur Gwyn ar adael yr UE, Brif Weinidog, mae ynddo lawer y gallaf gytuno ag ef. Ond mae'n ymddangos bod diffyg cynllunio strategol i ysgogi’r cyfleoedd, rwy’n credu, i dyfu economi Cymru. Rydym ni’n gwybod bod allforion Cymru wedi gostwng yn 2015 a bod 26 y cant yn llai o fusnesau newydd a gychwynnwyd ers 2011. Felly, wrth dyfu economi Cymru, sut mae eich papur yn cysylltu â’ch strategaeth ffyniannus a diogel y soniodd eich Ysgrifennydd Cabinet amdani yr wythnos diwethaf? Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r gostyngiad i allforion a chefnogi busnesau newydd yn arbennig, mewn gwirionedd?