<p>Cynllun Diwydiannol Llywodraeth y DU</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, diolchaf iddo am yr hyn a ddywedodd am y Papur Gwyn, nid ei ddisgrifio fel 'The Beano', wrth gwrs, fel y clywsom eraill yn ei blaid yn ei ddisgrifio. Soniodd am fentrau bach a chanolig eu maint—wel, mae gennym ni ein cronfa ad-daladwy i BBaChau, sy'n cynnig cyllid ad-daladwy i BBaChau. Lansiwyd y cynllun hyder busnes gennym, sy’n gyfres o gamau gweithredu yr ydym yn eu datblygu gyda'r bwriad o hybu hyder busnesau, yn syth ar ôl y refferendwm, ac mae hynny'n cynnwys cyhoeddiad y gronfa twf a ffyniant newydd, fel bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo. Yn ogystal â hynny, mae Cyllid Cymru wedi cynyddu un gronfa ac wedi cyflwyno dwy gronfa newydd hefyd. Er enghraifft, cronfa buddsoddiadau menter technoleg Cymru a chronfa fusnes Cymru. Felly, rydym ni’n benderfynol o wneud yn siŵr y gallwn roi cymaint o gymorth ag sydd ei angen ar BBaChau. Mae'n iawn i ddweud bod rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl Brexit. Nid ydym yn gwybod beth fydd y trefniadau ar gyfer cael mynediad at y farchnad sengl, a hyd y bydd y cwestiynau hynny wedi eu hateb, yna mae'n naturiol y bydd rhai busnesau sy'n dymuno allforio a fydd yn dymuno aros i weld beth sy'n digwydd cyn iddyn nhw wneud penderfyniadau buddsoddi.