<p>Cau Banciau yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:09, 31 Ionawr 2017

Rwyf wedi codi pryderon hefyd yn y Siambr yma efo’r Prif Weinidog ynglŷn â chyfres o gyhoeddiadau yn fy etholaeth i. Mae yna ragor o gyhoeddiadau wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â sefydliadau ariannol, nid dim ond banciau, yn cau: HSBC yng Nghaergybi a chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni ydy’r diweddaraf. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod yna ganoli, rydw i’n meddwl, mewn ‘hubs’ rhanbarthol. Rydym yn gweld patrwm o hynny yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny yn amddifadu pobl o wasanaethau, fel y mae Aelodau eraill yma wedi ei ddweud.

Ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod banciau, os nad fel cwmnïau unigol ond fel sector, yn sicrhau gwasanaethau ariannol a hygyrchedd iddyn nhw ym mhob cymuned yng Nghymru?