1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2017.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gau banciau yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0413(FM)
Roedd yn achos pryder i mi glywed am ragor o achosion arfaethedig o gau banciau; maen nhw’n digwydd ledled Cymru. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod pobl, lle maen nhw’n colli eu canghennau banc, yn gallu cael mynediad at wasanaethau bancio drwy'r swyddfeydd post.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd HSBC ei fwriad i gau ei gangen yn Nhreffynnon, yn dynn ar sodlau NatWest yn gwneud yr un penderfyniad i gau ei ddrysau yn yr un dref, ac mae canlyniad hynny’n mynd i daro’r stryd fawr yn galed. Ymunodd aelodau o'r gymuned a’m cydweithiwr seneddol â mi ddydd Gwener diwethaf i wneud safiad yn erbyn y cau diweddaraf hwn, ac roedd loes a dicter y bobl leol yn gwbl amlwg. Maen nhw wir yn teimlo mai digon yw digon i’r ardal. Yn wir, pan gaeodd HSBC ei fanc yn y Fflint y llynedd, cynghorwyd cwsmeriaid ganddo y gallent symud i ddefnyddio cangen Treffynnon, a chaewyd eu cangen NatWest yn y Fflint y llynedd hefyd, gan adael llawer, â’r henoed yn bennaf, heb wasanaeth. Er bod y banciau yn ei gwneud yn eglur ei bod yn bosibl defnyddio'r swyddfa bost leol, nid yw hyn yn berthnasol i gwsmeriaid busnes yn amlwg, a hefyd mae dyfodol swyddfa bost Treffynnon yn bell o fod yn sicr ar hyn o bryd.
Brif Weinidog, er fy mod i’n cydnabod y byddai angen i unrhyw ddeddfwriaeth i ddiogelu ein canghennau banc lleol gael ei gwneud ar lefel y DU, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth all hi ei wneud i alluogi pobl a busnesau yn fy etholaeth i a ledled Cymru i barhau i gael mynediad at fancio wyneb yn wyneb a chefnogi ein strydoedd mawr a fydd o bosibl yn dioddef yn sgil yr achosion hyn o gau?
Rydym, wrth gwrs, dros y blynyddoedd wedi cefnogi ein swyddfeydd post yn ariannol, ac maen nhw’n hynod bwysig mewn cymunedau lleol. Mae'n iawn i ddweud, er y gall gwasanaethau bancio personol gael eu darparu gan swyddfeydd post, y gwir amdani yw nad yw'r rhan fwyaf o gwsmeriaid busnes yn cael y math hwnnw o wasanaeth, a dyna’r hyn y mae angen i'r Swyddfa Bost ei ddarparu, gan weithio gyda'r banciau. Pan fydd busnesau yn casglu eu harian ar ddiwedd y dydd, ble maen nhw’n mynd â’u harian? Dyna un o'r problemau. Rydym ni’n edrych wedyn ar gael coffrau nos mewn swyddfeydd post—dyna’r datblygiad rhesymegol. Mae'n helpu nifer cwsmeriaid y swyddfa bost hefyd. Yr anhawster gyda bancio nawr yw bod llawer llai o bobl yn mynd i ganghennau, ond mae pobl sydd angen y gwasanaethau hynny, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Swyddfa'r Post i sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael i'r bobl hynny sydd eu hangen. Rydym ni wedi cyflwyno sylwadau dros y blynyddoedd i Swyddfa'r Post, ac i’r banciau yn wir—rwyf wedi ei wneud yn bersonol—i wneud yn siŵr, pan fo banciau yn penderfynu nad ydynt yn dymuno bod mewn cymuned mwyach, y gall y swyddfa bost gymryd drosodd y gwasanaeth y maen nhw’n ei gynnig, ac, wrth gwrs, i edrych ar ffyrdd y gall undebau credyd ddarparu gwasanaethau ariannol hefyd, i lenwi'r bylchau y mae’r banciau masnachol yn eu gadael.
Rwyf wedi codi pryderon hefyd yn y Siambr yma efo’r Prif Weinidog ynglŷn â chyfres o gyhoeddiadau yn fy etholaeth i. Mae yna ragor o gyhoeddiadau wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â sefydliadau ariannol, nid dim ond banciau, yn cau: HSBC yng Nghaergybi a chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni ydy’r diweddaraf. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod yna ganoli, rydw i’n meddwl, mewn ‘hubs’ rhanbarthol. Rydym yn gweld patrwm o hynny yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny yn amddifadu pobl o wasanaethau, fel y mae Aelodau eraill yma wedi ei ddweud.
Ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod banciau, os nad fel cwmnïau unigol ond fel sector, yn sicrhau gwasanaethau ariannol a hygyrchedd iddyn nhw ym mhob cymuned yng Nghymru?
Mae hynny’n deg, ac yn hollbwysig. Os yw’r banciau yn ffaelu ei wneud e, felly mae yna ddyletswydd, yn fy marn i, arnyn nhw i sicrhau bod yna ffyrdd eraill i ddelifro gwasanaethau cyllidol drwy’r Swyddfa Bost, a hefyd, wrth gwrs, fel Llywodraeth rydym wedi bod yn cefnogi undebau credyd er mwyn eu bod nhw’n gallu llanw’r bwlch y mae’r banciau masnachol yn ei adael, fel y dywedais i’n gynharach. Wrth wneud hynny, rydw i’n credu y bydd hi yn bosib sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaeth y dylen nhw ei gael.
Fel y dywedodd HSBC wrthyf pan gefais gyfarfod â nhw y llynedd i drafod cau’r banciau yn Sir y Fflint, ac fel yr atebodd NatWest i mi wrth i mi eu gwrthwynebu ac ysgrifennu atynt am gau’r gangen yn Nhreffynnon, ac fel y mae’r Yorkshire Building Society yn ei ddweud nawr, y newid o ddefnyddio gwasanaethau mewn banc i ddefnydd digidol yw’r rheswm am hyn. Wrth gwrs, mae hynny—fel y dywedwyd nawr am HSBC yn Nhreffynnon, Caergybi a Llanrwst—yn golygu bod pobl hŷn, y rhai nad oes ganddynt gludiant, y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr, a busnesau bach yn dioddef.
Yn y cyd-destun hwnnw, pa ddeialog a pha sylwadau a wnaeth eich Llywodraeth i adolygiad annibynnol yr Athro Griggs o sut y mae banciau wedi gweithredu'r protocol bancio i sicrhau bod effaith cau banciau cyn lleied â phosibl, ac a fu unrhyw ddeialog gyda Swyddfa'r Post ynghylch eu partneriaeth sydd newydd ei chyhoeddi i sicrhau mynediad at wasanaethau bancio lleol?
Wel, rydym ni’n croesawu'r argymhellion ar gyfer gwell ymgysylltu a chyfathrebu rhwng y banciau a chwsmeriaid, ond mae'n bwysig i Lywodraeth y DU, fel y sefydliad arweiniol yn hyn o beth, wneud yn siŵr bod yr hyn a awgrymwyd gan yr adolygiad yn digwydd mewn gwirionedd, sef bod y banciau yn gwella’r ffordd y maen nhw’n ymgysylltu â'r cymunedau hynny sy'n wynebu cau canghennau, gan gynnwys gweithio gyda chwsmeriaid busnesau bach i weld sut y gallant liniaru ymhellach yr her o adneuon a chasgliadau arian parod y mae cau canghennau yn eu creu i rai ohonynt. Felly, er y gallwn groesawu'r argymhellion, mae angen i ni weld gweithredu nawr ar ran Llywodraeth y DU.