Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 31 Ionawr 2017.
Mae hynny’n deg, ac yn hollbwysig. Os yw’r banciau yn ffaelu ei wneud e, felly mae yna ddyletswydd, yn fy marn i, arnyn nhw i sicrhau bod yna ffyrdd eraill i ddelifro gwasanaethau cyllidol drwy’r Swyddfa Bost, a hefyd, wrth gwrs, fel Llywodraeth rydym wedi bod yn cefnogi undebau credyd er mwyn eu bod nhw’n gallu llanw’r bwlch y mae’r banciau masnachol yn ei adael, fel y dywedais i’n gynharach. Wrth wneud hynny, rydw i’n credu y bydd hi yn bosib sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaeth y dylen nhw ei gael.