<p>Cau Banciau yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni’n croesawu'r argymhellion ar gyfer gwell ymgysylltu a chyfathrebu rhwng y banciau a chwsmeriaid, ond mae'n bwysig i Lywodraeth y DU, fel y sefydliad arweiniol yn hyn o beth, wneud yn siŵr bod yr hyn a awgrymwyd gan yr adolygiad yn digwydd mewn gwirionedd, sef bod y banciau yn gwella’r ffordd y maen nhw’n ymgysylltu â'r cymunedau hynny sy'n wynebu cau canghennau, gan gynnwys gweithio gyda chwsmeriaid busnesau bach i weld sut y gallant liniaru ymhellach yr her o adneuon a chasgliadau arian parod y mae cau canghennau yn eu creu i rai ohonynt. Felly, er y gallwn groesawu'r argymhellion, mae angen i ni weld gweithredu nawr ar ran Llywodraeth y DU.