<p>Cau Banciau yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:11, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd HSBC wrthyf pan gefais gyfarfod â nhw y llynedd i drafod cau’r banciau yn Sir y Fflint, ac fel yr atebodd NatWest i mi wrth i mi eu gwrthwynebu ac ysgrifennu atynt am gau’r gangen yn Nhreffynnon, ac fel y mae’r Yorkshire Building Society yn ei ddweud nawr, y newid o ddefnyddio gwasanaethau mewn banc i ddefnydd digidol yw’r rheswm am hyn. Wrth gwrs, mae hynny—fel y dywedwyd nawr am HSBC yn Nhreffynnon, Caergybi a Llanrwst—yn golygu bod pobl hŷn, y rhai nad oes ganddynt gludiant, y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr, a busnesau bach yn dioddef.

Yn y cyd-destun hwnnw, pa ddeialog a pha sylwadau a wnaeth eich Llywodraeth i adolygiad annibynnol yr Athro Griggs o sut y mae banciau wedi gweithredu'r protocol bancio i sicrhau bod effaith cau banciau cyn lleied â phosibl, ac a fu unrhyw ddeialog gyda Swyddfa'r Post ynghylch eu partneriaeth sydd newydd ei chyhoeddi i sicrhau mynediad at wasanaethau bancio lleol?