– Senedd Cymru am 2:43 pm ar 31 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, ac mae busnes y tair wythnos nesaf yn unol â’r hyn a ddangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ymysg papurau'r agenda sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais i arweinydd y tŷ am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar ymyraethau i amddiffyn asedau cymunedol, yn enwedig y rhai sy'n cyfoethogi ein treftadaeth. Dros y penwythnos, cafwyd adroddiadau am ddyfodol adeilad hen Ysbyty Cyffredinol Tredegar, adeilad pwysig yn hanes y GIG ac, yn anffodus, adeilad sydd wedi bod yn wag am nifer o flynyddoedd. Rwy'n credu ein bod ni’n tanbrisio ein treftadaeth iechyd yn y wlad hon ac mae gennym ni le unigryw i’w werthu fel cyrchfan o safbwynt treftadaeth iechyd. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar astudiaeth ddichonoldeb i agor llyfrgell goffa Aneurin Bevan ac amgueddfa gwasanaeth iechyd gwladol yn Nhredegar?
Wel, rwy’n credu bod Steffan Lewis wedi rhoi cyfle da iawn i gydnabod y dreftadaeth honno, ac yn arbennig o berthnasol, wrth gwrs, yn ardal Aneurin Bevan, gan feddwl yn ôl i enedigaeth a dechreuad y GIG, ac rwy'n siŵr bod hwn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn ofalus.
Galwaf am ddatganiad unigol ar ganser ceg y groth, gan gydnabod mai Wythnos Atal Canser Ceg y Groth oedd hi’r wythnos diwethaf. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith, er ei bod yn bosibl atal canser ceg y groth i raddau helaeth, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o’r clefyd yng Nghymru yn bryderus o uchel, ac mae'r nifer sy'n mynd i gael sgrinio serfigol ar ei isaf ers 10 mlynedd. Mae mwy nag un o bob pump o fenywod erbyn hyn yn gohirio neu’n peidio â mynd i’r prawf hwn sy’n gallu achub eu bywydau. Felly, mae angen datganiad arnom ni sy’n amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu cwmpas sgrinio serfigol yng Nghymru, pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal ynghylch cynlluniau i gynyddu cwmpas sgrinio serfigol ymhlith menywod o gefndiroedd difreintiedig, menywod ag anableddau dysgu, a menywod duon ac o leiafrifoedd ethnig; pa gamau sy'n cael eu cymryd i’w gwneud yn haws i fanteisio ar sgrinio serfigol er mwyn cynyddu cwmpas; a yw sgrinio serfigol ar gael i bob menyw mewn clinigau atal cenhedlu ac iechyd rhywiol; ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth i wella cwmpas sgrinio serfigol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffafriol i'r cais hwn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd y bydd menywod, yn y dyfodol, yn cael eu sgrinio ar gyfer prif achos canser ceg y groth yn hytrach—y feirws risg uchel papilloma dynol, HRHPV. Dan y trefniadau newydd hynny, bydd menywod yn parhau i dderbyn yr hyn a elwir yn gyffredin yn brawf ceg y groth, ond bydd y sampl wedyn yn cael ei brofi am HRHPV.
Ydy, mae nifer y menywod a gaiff eu gwahodd i gael eu sgrinio wedi gostwng o ganlyniad i newidiadau i’r ystod oedran, ac amlder y gwahoddiad, a gyflwynwyd yn 2013, pan wnaethom roi'r gorau i wahodd menywod 20-25 oed. Ond, wrth gwrs, mae angen i ni gydnabod yn awr ein bod ni'n mynd i roi ar waith brofion gwell a haws i’w defnyddio ar gyfer sgrinio canser ceg y groth ac, yn wir, sgrinio canser y coluddyn. Mae'r prawf ar gyfer HPV yn fwy sensitif a bydd yn caniatáu i'r GIG adnabod yn fwy effeithiol y rhai y mae angen triniaeth arnyn nhw. Felly, bydd rhaglen dreialu, a fydd yn cyrraedd tua 20 y cant o fenywod, yn cael ei chyflwyno ledled Cymru o fis Ebrill eleni, a disgwylir i gyflwyniad llawn ddechrau’r flwyddyn nesaf, 2018-19.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wneud datganiad ar gau dros dro uned mân anafiadau Llandrindod dros nos. Ddydd Gwener, cefais wybod gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys y bydd yn rhaid cau dros dro ei uned mân anafiadau yn Llandrindod rhwng hanner nos a 7am ar gyfer mis Chwefror yn ei gyfanrwydd. Ac, yn ôl a ddeallaf, mae hynny yn sgil cyfuniad o absenoldeb staff ac oherwydd mai hwn yw’r dull mwyaf diogel i bawb dan sylw—cleifion a staff. Fodd bynnag, gallai cau dros nos dros dro beri cryn bryder i rai o'r bobl a fyddai’n dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, ac mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, i fod yn deg, yn gwneud ymdrech fawr i roi gwybod i gleifion, ond mae'n debygol na fydd y neges yn cyrraedd pawb. Byddai croeso mawr pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sicrwydd i bobl ym Mhowys sy'n defnyddio'r UMA bod y newidiadau hyn yn newidiadau dros dro yn unig, yn enwedig gan fod y dewis arall agosaf 24 milltir i ffwrdd, yn Aberhonddu, mewn un cyfeiriad, yn dibynnu ar eich man cychwyn.
Wel, mae hwn yn fater gweithredol i'r bwrdd iechyd— Bwrdd Iechyd Addysgu Powys—ac mae’n galonogol iawn i mi, fel rwy’n siŵr ei bod i chi, mai’r bwrdd iechyd a gysylltodd ag Aelodau'r Cynulliad, cynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd, i’w gwneud yn ymwybodol o’r cau yn rhan o'u prosesau cyfathrebu. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y cafodd Joyce Watson wybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i rannu gwybodaeth am ffynonellau eraill o gyngor a thriniaeth yn ystod y cau dros dro. Rwy'n ymwybodol bod cyngor iechyd y gymuned leol hefyd wedi cyfrannu’n llawn at y penderfyniad hwn, a’u bod yn gefnogol. Cau dros dro yw hyn, fel y dywedodd yr Aelod—bydd ar gau dros dro rhwng hanner nos a 7am o 1 Chwefror tan 28 Chwefror, ond bydd ar gael, wrth gwrs, fel arall, yn ôl yr arfer. Mae'n bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, bod niferoedd isel iawn yn dod i’r uned mân anafiadau ar yr adeg honno ond mae hyn, wrth gwrs, yn fater y bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ymdrin ag ef.
Ar ddiwedd mis Chwefror, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta, ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech yn gallu amserlennu dadl gan y Llywodraeth ar y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru ar anhwylderau bwyta. Rwy’n gwybod ac yn gwerthfawrogi ein bod wedi cytuno ar fwy o gyllid ar gyfer anhwylderau bwyta drwy'r trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn ystod y trafodaethau ynghylch y gyllideb, ac mae angen eglurder o hyd o ran ble y mae’r cyllid hwnnw’n mynd. Felly, byddwn i’n croesawu dadl ar hynny.
Hoffwn i ddadl, hefyd, neu ddatganiad ar y cynnydd yr ydych yn ei wneud tuag at gyflymu diagnosis o ganser yr ofari. Mae'n ymddangos ei fod yn un o'r canserau hynny sy'n cael diagnosis yn eithaf hwyr ac y gall ledaenu ymhellach os nad yw'n cael ei nodi yn gynt. Fe ddywedoch chi yn 2013, fel Llywodraeth, y byddech yn ceisio cyflymu diagnosis, ac felly tybed a gawn ni ddiweddariad ar hynny yn y Siambr.
Mae Bethan Jenkins wedi codi materion yn gyson ac wedi hyrwyddo'r angen am driniaeth a gweithredu priodol ar gyfer anhwylderau bwyta, ac, wrth gwrs, mae mwy o arian wedi ei ddyrannu yn sgil ein cytundeb. Rwy'n siŵr y bydd diweddariad maes o law ar sut y bydd hynny'n cael ei weithredu. Ynglŷn â’ch ail bwynt, o ran canser yr ofari, ydy, mae hwn yn fater sy'n cael ei ddwyn i’n sylw ni yn rheolaidd, rwy'n siŵr, gan etholwyr Aelodau'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddibynnu ar y dystiolaeth a’r datblygiadau yma o ran cyfleoedd sgrinio i ganfod canser yr ofari.
A gaf i ofyn unwaith eto am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer Casnewydd, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi cael pryderon diddiwedd gan yrwyr tacsi yng Nghasnewydd ynghylch achosion diweddar o fandaliaeth, yn arbennig yn ardaloedd Ringland ac Alway. Taflwyd cerrig, wyau a brics at geir, gan gynnwys cerbydau gwasanaethau brys, sydd yn drueni mawr, gan achosi difrod sylweddol, ac, yn wir, mae’n berygl i iechyd y cyhoedd. Ymddengys nad oes digon o adnoddau gan yr heddlu yno. Mae'r setliad llywodraeth leol gwael diweddar ar gyfer Casnewydd yn sicr o roi pwysau ar gyllidebau sydd wedi'u bwriadu i fynd i'r afael â'r problemau cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn a all arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r fath. Mae yna rai ardaloedd, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd, yn y nos, yn ardaloedd nad yw pobl yn mentro mynd iddyn nhw yng Nghasnewydd. Nid yw hyn yn beth da o gwbl yn y ganrif hon. A gawn ni ddatganiad ar y mater hwn ar frys, os gwelwch yn dda?
Wel, wrth gwrs, mae hwn yn fater i Gyngor Dinas Casnewydd ac, yn wir, atebais gwestiwn yr wythnos diwethaf, pan wnes i atgoffa'r Aelod o'r setliad anodd a heriol iawn—y setliad cyni ariannol parhaus hwnnw a drefnwyd—i Lywodraeth Cymru. Ond byddwn i hefyd yn dweud bod Cyngor Casnewydd yn sicrhau ei fod yn gweithio gyda phartneriaid lleol o ran mesurau am Gasnewydd mwy diogel, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn sicr, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â'r pwynt a godwyd gennych chi.
Rwyf wedi cael cysylltiad gan etholwyr sy’n pryderu nad yw’r cyfamod milwrol yn cael ei weithredu yng Nghymru oherwydd nad yw staff rheng flaen yn ymwybodol ohono. Rwy'n gofyn i'r Llywodraeth gomisiynu astudiaeth i weld sut y mae'n cael ei roi ar waith ledled Cymru gan fod y dystiolaeth sydd gennyf yn anecdotaidd yn unig. Rwy'n gofyn i'r Llywodraeth roi datganiad llafar ar y canlyniadau.
Mike Hedges, rydym wedi ymrwymo’n fawr—ac, wrth gwrs fe’i codwyd yn gynharach y prynhawn yma—fel Llywodraeth Cymru i gefnogi cyfamod y lluoedd arfog. Mae gennym becyn cymorth newydd a dogfennau 'Croeso i Gymru', ac, yn wir, rwy’n credu bod David Melding wedi trafod y ffaith ein bod ar y blaen yng Nghymru o ran y ffordd yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ceisio bwrw ymlaen â hyn er mwyn sicrhau bod y gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy'n ymwybodol bod y Forces in Mind Trust, ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, wedi gwneud ymchwil yn ddiweddar ar sut y gallwn wella darpariaeth leol, sef eich cwestiwn chi, o gyfamod y lluoedd arfog, ac rydym yn awr yn cael darlun cliriach o rai o ganfyddiadau'r ymchwil. Bydd ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog yn trafod canfyddiadau'r gwaith ymchwil hwnnw a'r ffyrdd y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef.
Ceir tri pheth. Yn gyntaf, tybed a allwch chi ddarparu datganiad Llywodraeth, yn ddelfrydol, ar gefnogi gorsaf drên newydd ym Mynachdy. Nid oes gwasanaeth bws i'r orsaf, sy’n cysylltu â’r metro. Byddai’r lleoliad ger y seidins glo.
Yr ail beth yw datganiad am Anaya Aid, elusen sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr; elusen wirioneddol yw hon. Rwy'n credu mai hon yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n cludo cyflenwadau i Syria. Nid oes unrhyw gyllid ganddyn nhw, ac mae diddordeb cryf yno i ddarparu cyflenwadau meddygol. Ond, yn anffodus, oherwydd y fiwrocratiaeth, caiff llawer o feddyginiaethau eu taflu heb eu hagor mewn llawer o achosion. Gallai’r elusen honno gludo’r cyffuriau hynny i Syria, lle mae angen maen amdanyn nhw.
Y trydydd peth yw—mi wnes i ofyn hyn i chi bythefnos yn ôl, ac ni wnaethoch chi ateb; meddwl wnes i y byddwn i’n aros am wythnos. Nid wyf wedi gweld datganiad, ond mae'n ymwneud â'r defnydd honedig o’r car gweinidogol gan David Goldstone. Felly, a wnewch chi roi diweddariad i ni o bosibl drwy ddatganiad ar y defnydd neu ddiffyg defnydd—beth bynnag a ddigwyddodd gyda'r car, a aeth i fyny i Mayfair a’i godi a’i ddod yn ôl i Gaerdydd, neu beidio. Rwy’n credu y byddai'n braf i ni wybod yma yn y Siambr hon. Diolch.
Rwy’n credu y bydd eich pwynt cyntaf, o ran y dewisiadau posibl a dichonolrwydd gorsaf ym Mynachdy, wrth gwrs yn cael ei ystyried yn rhan o'r cynlluniau metro, sy'n datblygu, gan gydnabod hefyd bod hwn yn faes lle’r ydym wedi symud yn ein blaenau o ran ein pwerau a'n cyfleoedd a’n cyfrifoldebau o ran y seilwaith rheilffyrdd.
O ran eich ail bwynt, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod gwaith yr elusen wirfoddol a grybwyllwyd gennych, yn arbennig o ran yr angen i fynd —ac, wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig o ran canllawiau clinigol a thystiolaeth—â chyffuriau priodol i’r rhai sydd eu hangen, yn enwedig drwy’r elusen hon, a’n bod yn cydnabod y gwaith gwirfoddol.
Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y trydydd cwestiwn.
Fel y byddai arweinydd y tŷ yn gwybod, heddiw yw diwrnod cyntaf yr arwerthiant marchnad capasiti diweddaraf. Drwy hyn, mae'r Grid Cenedlaethol yn prynu capasiti wrth gefn ar gyfer y grid. Yn yr arwerthiant diweddaraf, ar ddiwedd 2016, enillwyd cyfran o'r farchnad honno gan ffermydd diesel, a oedd yn gyfran lai nag mewn blynyddoedd blaenorol, ond yn sylweddol o hyd. Mae ffermydd diesel yn swnllyd, maen nhw’n achosi llygredd a gallan nhw fod ar waith am 10 i 15 mlynedd. A fydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad ar nifer y ffermydd hynny yng Nghymru, eu cyfraniad i ansawdd aer gwael a’r rhwystr y maen nhw’n ei gyflwyno i'r Llywodraeth i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol, ac a yw’r grid, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, wedi cynnal trafodaeth â chyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud defnydd o'u generaduron diesel i ddarparu capasiti wrth gefn?
Daw Jeremy Miles â datblygiad i sylw’r Siambr hon sy'n peri pryder mawr. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd ar hyn o bryd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai'n gorfodi rheolaethau ar allyriadau o generaduron diesel er mwyn diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Gweinidog? Rwy’n credu, bythefnos yn ôl, y gofynnais iddi am ddadl ar ynni'r llanw, gan gyfeirio’n benodol at adolygiad Hendry a morlyn Abertawe. Mae’r ddadl honno yn cael ei dwyn ymlaen yn amser y Llywodraeth, felly hoffwn ddiolch i’r Llywodraeth am wrando. Rwy'n credu, ac rwy’n gobeithio, y bydd yn caniatáu i'r Cynulliad cyfan uno i gefnogi'r cynnig hwnnw ac wedyn i roi pwysau gwirioneddol ar Lywodraeth y DU i gyflwyno penderfyniad cadarnhaol—yn gadarnhaol o ran ynni yng Nghymru, ond yn gadarnhaol o ran creu swyddi a sgiliau hefyd. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghais i yr un mor llwyddiannus heddiw. Fodd bynnag, rwy’n amau hynny. Ond hoffwn i gefnogi'r cais a wnaed eisoes ynglŷn â’r datganiad ar gau uned mân anafiadau dros nos Llandrindod yn ystod mis Chwefror yn unig. Rwyf i mewn gwirionedd eisiau defnyddio hynny fel cais i gael datganiad polisi ehangach gan Lywodraeth Cymru ar y defnydd o unedau mân anafiadau, oherwydd mae llawer o ddryswch ymhlith pobl ynglŷn â diben unedau mân anafiadau. Mae gennym ni gynnig yn Ninbych y Pysgod am wasanaeth galw i mewn, ac nid wyf yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwasanaeth galw i mewn ac uned ar gyfer mân anafiadau, beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhywbeth sy’n gysylltiedig â'r ysbyty ac, yn syml, lle mae meddyg teulu yn bresennol. A’r dryswch hwn sydd, mewn gwirionedd, yn cymell pobl i anwybyddu neges Dewis Doeth Llywodraeth Cymru a mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys. Awgrymaf mai'r rheswm pam mae cynifer o bobl yn cael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys sydd, o bosib, ag anafiadau y gellid ymdrin â nhw mewn cyd-destun gwahanol, yw nad ydyn nhw’n gwybod a yw'r unedau ar agor neu beidio, nid ydyn nhw’n gwybod a ydyn nhw’n ymdrin â'r cyflwr sydd arnyn nhw ac nid ydyn nhw’n rhoi diagnosis i’w hunain yn yr ystyr hwnnw. Mae angen gwasanaeth cyson a dibynadwy y gallan nhw ddibynnu arno. Mae cau dros nos ym mis Chwefror—rwy’n deall pam mae hyn yn digwydd, ond nid yw hynny'n helpu i drosglwyddo'r neges honno. O ran yr oedi yn Ninbych y Pysgod wrth sefydlu’r gwasanaeth galw i mewn ar ôl i’r uned mân anafiadau gau yn sydyn, dros nos, am resymau brys ac na chafodd ei hailagor wedi hynny, nid yw hyn, unwaith eto, yn magu hyder y cyhoedd.
Felly, datganiad rwy’n credu gan Lywodraeth Cymru, a wnaeth, cyn yr etholiad diwethaf feirniadu rhai pleidiau yma—fy mhlaid i a'r Ceidwadwyr, mewn gwirionedd—am sôn am unedau mân anafiadau a dweud eu bod yn tanseilio A & E—. Mae yna ddryswch yn Llywodraeth Cymru ei hun ynglŷn â’r berthynas rhwng adrannau damweiniau ac achosion brys, unedau mân anafiadau ac oriau agor hwyr, os mynnwch chi, gan feddygon teulu. Gadewch i’n neges ni fod yn un gyson. Siawns y byddai datganiad, datganiad polisi neu ddadl, hyd yn oed, ar y materion hyn yn helpu i egluro rhai o'r negeseuon hyn.
Diolch i Simon Thomas am gydnabod pwysigrwydd y datganiad busnes a'r ffaith fy mod i’n tynnu ceisiadau yn ôl nid yn unig am ddadleuon a datganiadau, ond hefyd cwestiynau, y gellir eu hateb yn aml gan Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion. Ond mae'n bwysig ein bod yn cynnal y ddadl ar y morlyn llanw ym Mae Abertawe yn amser y Llywodraeth. Mae wedi’i hamserlennu bellach, ac rwy'n siŵr y bydd pob un yn awyddus i gymryd rhan, oherwydd y gefnogaeth drawsbleidiol i hyn mewn trafodaeth gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Mae eich ail bwynt, yn fy marn i, yn bwysig o ran rhoi’r darlun cyfan o sut y gallwn gefnogi pobl i gael mynediad i unedau mân anafiadau yn hytrach na'r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Ceir amrywiaeth yn y ffordd y caiff yr unedau mân anafiadau hynny eu darparu o ran amseru a staffio ledled Cymru, a chyfrifoldeb y byrddau iechyd yw hynny. Ond byddaf yn sicr yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd at hyn, fel yr wyf yn siŵr y byddwch chi’n ei wneud.
Diolch i’r Gweinidog.