Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 31 Ionawr 2017.
Wel, Lywydd, diolch i Janet Finch-Saunders am gyfres gynhwysfawr o gwestiynau. Diolch am yr hyn a ddywedodd ar y dechrau. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gael cyfleoedd i drafod manylion y syniadau hyn wrth i’r cyfnod ymgynghori fynd yn ei flaen. Rwy’n deall bod gan ei phlaid hi farn wahanol am ddiwygio etholiadol, ond does dim awgrym o gwbl o chwarae a’r ffiniau. Mae'r rhain yn ddewisiadau y byddwn yn gallu eu dadlau yma, ac rydym eisoes wedi clywed safbwyntiau gwahanol amdanynt yn y Siambr.
Rwyf am ymdrin cystal ag y gallaf â’r gyfres o gwestiynau penodol iawn y mae’r Aelod wedi eu gofyn. Rwy'n falch ei bod wedi mynd i’r drafferth i sôn am uno gwirfoddol. Mae hynny’n cael ei gyflwyno eto yn y Papur Gwyn. Rwyf wedi cael y cyfle i glywed gan nifer o’r cynghorau hyn a gyflwynodd gynigion uno gwirfoddol yn y gorffennol. Rwy’n gwybod y caiff rhywfaint o waith cefndir ei wneud i edrych ar y syniadau hynny eto. Rwy’n credu mai’r hyn y bydden nhw’n ei ddweud wrth yr Aelod, fel y gwnaethant ei ddweud wrthyf fi, yw nad yw’r adeg hon yn y cylch etholiadol yn ddefnyddiol iddynt ac y byddent, cyn gallu dechrau trafodaethau o'r fath mewn unrhyw ffordd benderfynol, yn dymuno cael mandad o’r newydd gan eu poblogaethau lleol.
Nid yw cysoni treth yn ffactor yn y trefniadau rhanbarthol. Y cynnig y mae’r Papur Gwyn yn ei amlinellu yw y dylai arian barhau i lifo drwy'r 22 awdurdod lleol, ac yna y dylent ei gronni i fyny i gyflawni'r cyfrifoldebau rhanbarthol gorfodol newydd. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod yn gwneud hyn yn llwyddiannus nawr. Er enghraifft, yn y consortia addysg, maen nhw’n cytuno ymysg ei gilydd faint mae pob un am ei roi yn y pot cyfunol hwnnw. A hoffwn weld perthynas sy'n ystyried awdurdodau lleol fel cyrff aeddfed sy'n gallu ymrafael â heriau difrifol, ac sydd â’u masnachfraint ddemocrataidd eu hunain. Gwaith y Llywodraeth yw darparu dull wrth gefn pan nad yw pethau'n gweithio yn y ffordd y byddem yn ei disgwyl. Felly, cyn belled ag y mae cyllidebau dan sylw, mae'r Papur Gwyn yn dweud mai’r sefyllfa ddiofyn fyddai bod awdurdodau lleol yn cytuno ar hyn eu hunain. Byddwn yn amlinellu mewn unrhyw ddeddfwriaeth fformiwla wrth gefn y byddai'n rhaid iddynt ei defnyddio o dan amgylchiadau pan nad oeddent yn gallu dod i gytundeb.
Cyn belled ag y mae craffu dan sylw, mae'r Papur Gwyn yn awgrymu dull bwydlen, sy’n gyson â'r modd yr wyf eisoes wedi ei ddisgrifio—y fethodoleg gyffredinol y tu ôl iddo. Mae'n dweud y bydd awdurdodau lleol yn gallu dewis o blith ystod o wahanol ffyrdd o drefnu craffu, a phenderfynu ar ba ddull sydd fwyaf addas i'w hamgylchiadau lleol. Gofynnodd Janet gwestiwn pwysig iawn am ddeiliaid portffolios. Byddai'r model cydbwyllgor yr ydym yn ei gymeradwyo yn y Papur Gwyn yn gweld deiliaid portffolio o awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn dod ynghyd i wneud y penderfyniadau rhanbarthol hynny. Rwy’n benderfynol, er yr hoffwn fod mor gydsyniol â phosibl ac yr hoffwn drafod cynifer o bethau ag y bo modd, ar y ddau beth hyn, rwy’n teimlo'n gryf fy hun: un, yn y pen draw, mae'n rhaid i benderfyniadau orwedd ar ddesg aelodau etholedig. Ac un o beryglon pwyllgorau rhanbarth yw y gallant roi gormod o bŵer i swyddogion yn hytrach nag i aelodau etholedig. Rwy'n credu bod yn rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud gan bobl y mae pobl eraill yn gallu cael gwared arnynt os ydynt yn penderfynu mai dyna beth y maen nhw eisiau ei wneud. Ac rwyf hefyd yn awyddus i lunio’r strwythurau rhanbarthol hyn mewn modd a fydd yn ei gwneud yn glir y bydd penderfyniadau rhanbarthol yn cael eu gwneud gan y deiliaid portffolio hyn gyda’i gilydd. Byddan nhw’n mynd yn ôl i’w hawdurdodau lleol unigol i fod yn destun craffu, i ateb cwestiynau, i gael eu dwyn i gyfrif, ond ni fyddant yn mynd yn ôl i ofyn am ganiatâd. Bydd y gyfraith yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r penderfyniadau rhanbarthol hynny gael eu gwneud yn rhanbarthol, a gyda lles y rhanbarth cyfan yn flaenllaw ym meddyliau'r bobl hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hynny.
Mae’r Aelod wedi dangos diddordeb brwd iawn, a diddordeb gwybodus iawn hefyd, mewn cynghorau cymuned, ac rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda hi am yr adolygiad gwraidd a changen o gynghorau cymuned y mae’r Papur Gwyn hwn yn ei ddynodi. Rhwystredigaeth adroddiad yr archwilydd cyffredinol heddiw yw ei fod yn dweud bod y camgymeriadau y mae’n eu gweld yn gamgymeriadau cyffredin. Yr un camgymeriadau sy’n cael eu gwneud ym mhob man, ac maent yn hawdd iawn i'w hunioni. Felly, y rhwystredigaeth yw nad ydym eto wedi gwneud y cynnydd yr hoffem ei weld wrth sicrhau bod cynghorau cymuned yn unioni’r materion sylfaenol hynny a nododd yr Aelod yn ei chyfraniad. Mae'r Papur Gwyn yn nodi cyfres o gamau y gallwn eu cymryd ar unwaith i wella perfformiad cynghorau cymuned yn y presennol, ond diben yr adolygiad sylfaenol yw cymryd y gorau o'r hyn y maen nhw’n ei wneud, ac mae enghreifftiau da ohonynt yn gwneud gwaith pwysig iawn yng Nghymru, a gwneud hynny yn nodweddiadol o’r system yn ei chyfanrwydd.