5. 3. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:34, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rydyn ni yn UKIP yn cefnogi'n fras y bwriad i leihau biwrocratiaeth llywodraeth leol, gan, ar yr un pryd, ymdrechu i gadw rhyw gysylltiad ystyrlon rhwng cynghorwyr lleol etholedig a'u hetholwyr. Fel gyda'r rhan fwyaf o bethau ym maes gwleidyddiaeth, mae angen i’r ad-drefnu hwn fod yn waith o gydbwyso. Ar y naill law, mae gennym bryderon cyhoeddus ynglŷn â gormod o weinyddwyr; mae eu gwaith yn cael ei ailadrodd ar hyn o bryd gan 22 o wahanol adrannau yng Nghymru, a llawer ohonynt yn y bôn yn gwneud yr un peth. Ar y llaw arall, pe byddem yn mynd i lawr y llwybr a hyrwyddodd y Gweinidog llywodraeth leol diwethaf, Leighton Andrews, yn y pen draw, byddai gennym wyth neu naw o gynghorau. Rwy’n ofni y gallai’r canlyniad hwn fod wedi torri, yn angheuol ac yn anadferadwy, y berthynas rhwng aelodau lleol a'u hetholwyr.

Mae gennym ddigon o broblemau â chynghorwyr yn ceisio cynrychioli eu cymunedau, yn enwedig ym maes cynllunio. Am flynyddoedd, mae aelodau lleol wedi ceisio ymladd yn erbyn ceisiadau cynllunio, dim ond i'r Cyngor gael gwybod gan y cyfarwyddwyr cynllunio, 'Byddwn yn ôl pob tebyg yn colli hwn ar apêl os byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn', ac yn ddigon siŵr, mae'r datblygwr yn ennill ei gais. Felly, mae dylanwad yr aelodau lleol yn ddigon prin fel ag y mae hi, a byddai lleihau nifer y cynghorau i wyth neu naw yn eu gwneud yn fwy analluog eto. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yn y broses gynllunio yw refferenda lleol sy’n rhwymo mewn cyfraith, a dyna yw polisi UKIP, a byddem yn annog y Gweinidog i edrych ar hyn yn y dyfodol, os yw wir yn dymuno grymuso pobl leol mewn penderfyniadau sy'n cael effaith fawr ar eu cymunedau.

I droi’n ôl at y cynigion penodol a gyflwynwyd heddiw, mae’n ymddangos ar bapur eu bod yn cynrychioli sail resymol i ddechrau trafodaethau a fydd, yn amlwg, yn rhai cymhleth gyda’r 22 o awdurdodau lleol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y rhai sy'n talu'r dreth gyngor yng Nghymru yn cael gwell gwerth am arian, a’n bod yn lleihau niferoedd gormodol o weinyddwyr. Ar yr un pryd, ni allwn fod yn ffwrdd-â-hi ynglŷn â hyn, gan gofio, fel y mae'n rhaid i ni, mai swyddi pobl yw’r rhain. Mae'n waith cydbwyso eto, fel y dasg o lywio’r cynghorau’n ofalus tuag at weithredu mwy o wasanaethau a rennir.

Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniad terfynol ad-drefnu llywodraeth leol, ond rydym hefyd yn awyddus i’r Gweinidog lwyddo i gael y llyfr rheolau safonol y mae wedi sôn amdano ynghylch gweithredu’r pwyllgorau rhanbarthol ar y cyd, neu'r pwyllgorau cydlywodraethu, fel y mae’n eu galw. Rydym yn cytuno â'r egwyddor mai aelodau etholedig a ddylai wneud pob penderfyniad sylweddol, ac nid swyddogion, a hoffem osgoi gwneud y broses o wneud penderfyniadau yn fwy beichus. Felly, rydym o blaid y cysyniad bod y pwyllgor rhanbarthol ei hun yn gwneud y penderfyniadau, ac nad yw ond yn gwneud argymhellion ac yna’n gorfod mynd yn ôl i'r cynghorau lleol perthnasol.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi sôn am y tro cyntaf am gynnig tybiedig i ganiatáu i gynghorau gyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, neu STV, yn eu hetholiadau eu hunain, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Nid ydym yn credu bod hyn yn mynd yn ddigon pell, ond rydym yn croesawu symudiad y Gweinidog i'r cyfeiriad hwn yn fawr iawn. Rydym hefyd yn hoffi’r cynnig i ganiatáu i gynghorau benderfynu, os ydynt yn dymuno, mynd yn ôl at yr hen system o lywodraethu gan bwyllgorau, yn hytrach na chabinet y cyngor. Mae llawer o dalwyr y dreth gyngor yn cofio’r hen system gyda hoffter, a byddem yn croesawu’r cyfle i ddychwelyd ati.

I gloi, mae llawer o ffordd i fynd o hyd i roi’r cynllun ad-drefnu hwn i gyd ar waith. Ond mae'n ymddangos bod y datganiad hwn yn fan cychwyn rhesymol. Diolch.