Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 31 Ionawr 2017.
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am yr hyn a ddywedodd ar y dechrau? Bydd yn gwybod bod trafodaethau gydag ef, a rhai o'i safbwyntiau a’i brofiad manwl o'r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithio ar lawr gwlad, wedi dylanwadu'n fawr ar rai o fy syniadau. O ran ei bwynt ynglŷn â gwasanaethau cefn swyddfa, mae nifer o Aelodau wedi gwneud y pwynt hwn—gwnaeth Gareth Bennett y pwynt hefyd—ynglŷn â’r ffordd y mae cyfuno gwasanaethau'n effeithio ar swyddi. Mae'r Papur Gwyn yn awgrymu ffordd raddol o ymdrin â hyn, ond ceir ymdeimlad penderfynol ein bod ar y daith honno gyda’n gilydd. Yn y gwasanaeth iechyd, cymerodd 10 mlynedd i fynd o sefyllfa lle’r oedd pob corff iechyd yn darparu popeth drosto ei hun i un gwasanaeth cenedlaethol a rennir, ac roedd angen sensitifrwydd ar hyd y ffordd pan oedd y penderfyniadau hynny’n effeithio ar swyddi pobl. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn benderfynol iawn, pe byddai cyfuno cefn swyddfa yn effeithio ar swyddi cyflog uchel, y câi’r swyddi hynny eu lleoli mewn ffordd sy'n gyson ag ymagwedd economaidd Llywodraeth Cymru—mewn geiriau eraill, y byddai’r swyddi hynny’n cael eu lleoli yn fwriadol yn y mannau hynny lle byddai'r swyddi’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly, rwy’n credu bod ffyrdd y gallwn ymdrin â'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn gwbl briodol.
O ran ei dri chwestiwn penodol, bydd gwahanol safbwyntiau—rydym wedi eu clywed yn barod—am y ffordd y gallwn symud at system ganiataol o ddewis trefniadau etholiadol, ac os oes gan bobl syniadau i’w hychwanegu at y gronfa yr ydym wedi’i hamlinellu yn y Papur Gwyn, byddaf yn awyddus iawn i’w clywed yn yr ymgynghoriad. Rwy’n gobeithio, Lywydd, y bydd Aelodau o bob plaid wleidyddol yma, a’r pleidiau gwleidyddol eu hunain, yn awyddus i fod â diddordeb yn y gyfres ehangach o ddiwygiadau y mae’r Papur Gwyn yn eu hamlinellu, gan ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd gennym i newid y ffordd yr ydym yn cynnal etholiadau er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch ac ar gael i bobl yr hoffem eu gweld yn cymryd rhan ynddynt.
Mae Mike Hedges yn gofyn imi am faint pwyllgorau rhanbarthol. Mae adran yn y Papur Gwyn, yn rhan 2, os cofiaf, sy'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn ag aelodaeth y pwyllgorau llywodraethu rhanbarthol. Rwy'n meddwl mai’r unig egwyddor y mae’n ei gosod i lawr fel un yr ydym wedi ymrwymo iddi ar hyn o bryd yw, os oes hyblygrwydd, bod hynny’n dal i olygu bod yr hyblygrwydd ar gael yn gyfartal i bob awdurdod lleol sy'n aelodau o'r pwyllgor. Mewn geiriau eraill, os oes gennych chi dri aelod o un cyngor, mae'n rhaid bod gennych chi dri aelod o bob un ohonynt, ac yn y blaen.
Yn olaf, ynglŷn â symud holl weithgareddau Llywodraeth Cymru i mewn i’r olion traed hyn, buom yn trafod y Papur Gwyn hwn, wrth gwrs, yn y Cabinet. Rwy’n gwybod bod fy nghydweithwyr wedi ymrwymo i’r un dymuniad hwnnw i geisio symleiddio patrwm olion traed rhanbarthol yng Nghymru, i geisio atgyfnerthu'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar lai o olion traed, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n caniatáu amser i symud oddi wrth bethau sy'n gennym ar waith heddiw at y trefniadau a fydd gennym yn y dyfodol, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n sensitif i'r trefniadau hynny sy'n gweithio ar hyn o bryd ac na fyddem yn dymuno tarfu arnynt.