Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch. Ar ôl inni glywed gan randdeiliaid am eu pryderon, ac o ystyried y ffaith bod y pedwerydd Cynulliad wedi gwrthod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), cytunodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylid ystyried y rheoliadau o dan Reol Sefydlog 27.8 ac adrodd ein casgliadau i’r Cynulliad.
Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gosod, gwnaethom ysgrifennu at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at undebau myfyrwyr yng Nghymru a oedd wedi codi nifer o bryderon ynghylch y rheoliadau Rhif 3 blaenorol, cyn iddynt gael eu gwrthod gan y Cynulliad ym mis Mawrth eleni. Gan eu bod wedi cael cyfle i weld y rheoliadau newydd, gofynnwyd iddynt sôn yn fanwl am unrhyw bryderon a oedd ganddynt amdanynt. Ymatebodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Chymdeithas yr Iaith ac mae eu sylwadau ysgrifenedig yn yr atodiadau i’r adroddiad. Mae’n rhaid i mi bwysleisio ar y record yma heddiw fod tystiolaeth ysgrifenedig yr un mor gadarn â thystiolaeth ar lafar.
Wedyn, cafodd y pwyllgor dystiolaeth lafar ar 18 Ionawr gan Fflur Elin, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, a gan Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r coleg yn gweithio gyda phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Hefyd, cafodd y pwyllgor dystiolaeth lafar yn y cyfarfod gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn ogystal, cafwyd sylwadau gan Colegau Cymru, sef elusen sy’n ceisio gwella cyfleoedd ym maes addysg bellach. Yn anffodus, roedd yr amseru yn golygu nad oedd y pwyllgor yn gallu ystyried y sylwadau hyn, ond maent wedi cael eu cynnwys yn yr atodiadau i’r adroddiad hwn er hynny.
Roedd llawer o’r dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law yn ymwneud â’r broses gyffredinol ar gyfer gwneud y rheoliadau a natur y gyfundrefn safonau a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’n deg dweud bod y pwyllgor, heb ffurfio barn benodol ar y mater, yn rhannu rhai o’r pryderon hynny. Yn sicr, i bob golwg, mae’r rheoliadau sydd ger ein bron yn ffordd letchwith a biwrocrataidd o geisio ymgorffori hawliau i ddefnyddio a derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fodd bynnag, gan roi o’r neilltu ein pryderon am y broses ehangach ar gyfer gwneud a chymeradwyo rheoliadau safonau a natur y rheoliadau hynny, roedd ein hystyriaeth—fel y ddadl hon heddiw—yn ymwneud â phwynt llawer mwy cyfyng, sef a ddylai’r rheoliadau penodol hyn gael eu cymeradwyo.
Wedi dweud hynny, mae’r pwyllgor wedi nodi bwriad y Gweinidog i adolygu’r ddeddfwriaeth sylfaenol y mae’r safonau’n cael eu gwneud o dani, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ein barn ni, dyna’r man priodol ar gyfer ystyried materion ehangach o ran proses ac egwyddor, ac mae’n siŵr gen i y bydd y pwyllgor am ymgysylltu’n gadarnhaol â’r Gweinidog mewn unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo fe.
O ran y rheoliadau sydd ger ein bron, mae’n amlwg eu bod yn bell o fod yn berffaith o hyd a chydnabuwyd y gwendidau yn y rheoliadau gan bawb a roddodd dystiolaeth i ni. Yn benodol, rwyf am dynnu sylw at y pryderon a fynegwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru am faterion yn ymwneud â’r diffiniad o les myfyrwyr a’r ddarpariaeth o lety.
Fodd bynnag, mae’r holl dystiolaeth a gawsom yn dangos bod y rheoliadau hyn, er gwaethaf eu diffygion, yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r prif bryderon a godwyd gan sefydliadau myfyrwyr a gan Aelodau yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y rheoliadau a wrthodwyd ym mis Mawrth y llynedd. Felly, er eu bod yn amherffaith, maent yn well na’r rheoliadau a wrthodwyd. Rydym hefyd yn falch o nodi bod y Gweinidog wedi rhoi sicrwydd y bydd yn adolygu’r rheoliadau yn barhaus ac y bydd yn cyflwyno rheoliadau diwygio os yw’n amlwg nad ydynt yn gweithio yn ymarferol yn unol â’r bwriad sydd ohoni. Yn amodol ar y sicrwydd hwn, mae’r pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad yn cymeradwyo’r rheoliadau. Diolch yn fawr.