8. 6. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:04, 31 Ionawr 2017

Rydym ni fel Plaid Cymru yn cefnogi’r rheoliadau ar eu newydd wedd. Rydych chi wedi sôn eu bod nhw wedi cael eu gwrthod gan y pedwerydd Cynulliad. Nid oeddwn i yma bryd hynny, ond mi oedden nhw’n rhai gwan, ac fe godwyd nifer o bryderon gan fudiadau myfyrwyr a Phlaid Cymru bryd hynny. Mi fuodd ychydig o oedi pellach cyn y Nadolig—wythnos yn unig, rwy’n prysuro i ddweud—ar gais Plaid Cymru, ar ôl cael gweld y rheoliadau drafft bryd hynny, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y cyfle hynny i roi barn. Rydw i’n falch iawn o weld ei fod o wedi gwrando, ac mae llawer o’r pryderon yr oeddem ni’n eu codi wedi cael eu diwygio ymhellach.

Mae’r safonau diwygiedig, felly, yn cynnwys llawer iawn o hawliau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg: yr hawl i fynegi dymuniad i gael llety cyfrwng Cymraeg; i gael defnyddio mewnrwyd myfyrwyr yn Gymraeg; yr hawl i gael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg; yr hawl i weld y Gymraeg ar bob arwydd ym mhrifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru; ac i ddefnyddio’r Gymraeg mewn canolfannau celfyddydau. I edrych ar un o’r rhain—yr hawl i diwtor personol Cymraeg—rydw i’n meddwl bod hwn yn allweddol i lwyddiant myfyriwr Cymraeg ei iaith neu ei hiaith mewn sefydliadau sy’n aml yn gallu bod yn llefydd reit estron i bobl ifanc sy’n cyrraedd yna am y tro cyntaf. Mae cael perthynas gyson yn y Gymraeg efo aelod o staff yn siŵr o wella profiad y myfyriwr, ac felly yn gwella ei gyflawniad addysgol o neu hi hefyd.

Mae’r safonau hyn yn gam ymlaen, felly—nid oes amheuaeth am hynny—er bod ychydig o fylchau’n parhau o hyd. Mi fyddwn ni yn eu cefnogi nhw, ond yn ategu galwad pwyllgor y Gymraeg wrth wneud hynny, ac yn diolch, gyda llaw, am y gwaith craffu manwl mae’r pwyllgor wedi’i wneud i gyfrannu at lle rydym heddiw. Mi rydym ni’n ategu galwad y pwyllgor bod angen cadw golwg manwl ar weithredu’r safonau yma a’u hadolygu nhw eto i fynd i’r afael â’r bylchau fydd yn amlygu eu hunain.

Bydd hefyd, wrth gwrs, angen cynllunio gweithlu yn y sefydliadau er mwyn cyflawni’r rheoliadau, ac mi fydd hynny, yn ei dro, yn cyfrannu tuag at y strategaeth miliwn o siaradwyr, maes o law.

Rydw i hefyd wedi edrych ar beth oedd gan Colegau Cymru i ddweud yn eu tystiolaeth nhw ac yn cefnogi’r hyn maen nhw’n ei ddweud, sef bod yn rhaid i’r rheoliadau weithio law yn llaw efo cynlluniau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn ein sefydliadau addysg ni. Heb i gynnwys yr addysg fod yn y Gymraeg hefyd, rhywbeth ar yr wyneb ydy llawer iawn o’r materion sydd yn y rheoliadau. Ond o roi’r ddau efo’i gilydd, ac yn enwedig, efallai, ym maes addysg bellach—mae eisiau symud ymlaen, rŵan, i gynnwys llawer iawn mwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg yn y byd addysg bellach ac efallai dod â’r maes yna o dan adain y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ond, nid oes dim dwywaith, fe fydd y rheoliadau yma yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr allu byw drwy’r Gymraeg tra’n astudio ar ôl gadael yr ysgol yn y blynyddoedd a ddaw.