Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 1 Chwefror 2017.
Wel, croesawaf yr ymateb hwnnw, a bydd yn adeiladu ar y gwaith lle y gwnaed gwelliannau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, i effeithlonrwydd ynni oddeutu 8,000 o gartrefi y llynedd o dan Nyth ac Arbed. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â thlodi tanwydd, ac roeddwn am ofyn hynny yn fy nghwestiwn atodol. Bydd Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd, ac maent wedi gwneud argymhellion penodol, gan adeiladu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud. Maent wedi gofyn am ymagwedd strategol newydd, wedi’i chefnogi gan raglen ac amserlenni clir, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Maent wedi gofyn am ddata cadarn sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ar ansawdd y stoc dai, ac adroddiadau ar lefelau tlodi tanwydd. Ac un o’u hargymhellion, i gloi, yw y dylem ystyried targed newydd uchelgeisiol ar gyfer tlodi tanwydd yn seiliedig ar godi sgôr tystysgrif perfformiad ynni gofynnol nifer o gartrefi incwm isel i C neu’n uwch bob blwyddyn. Ceir argymhellion eraill, ond tybed a fydd hi’n ymroi i edrych ar argymhellion Age Cymru ac yn ymateb iddynt, ac yn bwrw ymlaen â’r gwaith yr ydym eisoes wedi bod yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru.