<p>Rhaglen Cartrefi Clyd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:35, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy’n ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd, ac yn sicr, ar hyn o bryd rydym yn ystyried y cynigion a argymhellwyd ganddynt ar gyfer datblygu ein polisi tlodi tanwydd ehangach yn y dyfodol. Rydym eisoes wedi ymateb i lawer o’r cynigion a gyflwynwyd ganddynt yn ein hymateb i ymgynghoriad Nyth a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Felly, er enghraifft, rydym yn cynnig ymestyn cymhwysedd ar gyfer pecyn o fesurau Nyth i wella ynni yn y cartref i aelwydydd incwm isel sydd â phreswylwyr yn dioddef o rai cyflyrau iechyd penodol, ac mae gennym drefniadau llwybr carlam ar waith ar gyfer pobl agored i niwed sy’n gymwys, sy’n rhywbeth gwirioneddol bwysig yn fy marn i. Hefyd, pan oedd fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, a minnau yn ein portffolios—ac rydym bellach wedi cyfnewid—penderfynasom y buasem yn ystyried casgliad data newydd pwysig ar gyfer ein stoc dai, gan nad oedd gennym y data yr oedd y ddau ohonom yn teimlo y dylai fod gennym. Felly, rydym wedi cyflwyno hynny, ac wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y cyd ynglŷn â hynny i’r Aelodau.