<p>Rhaglen Cartrefi Clyd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:36, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Croesawaf gyfeiriad Huw Irranca-Davies at adroddiad, canfyddiadau ac argymhellion Age Cymru. Fe gyfeirioch at yr ymgynghoriad ar gynllun tlodi tanwydd seiliedig ar alw ar gyfer y dyfodol, ond mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru wedi mynegi pryderon y bydd cyflwyno gofynion oedran yn y meini prawf cymhwysedd a gynigir yn atal llawer o gartrefi mewn tlodi tanwydd sy’n gymwys ar hyn o bryd rhag cael cymorth. Felly, sut rydych yn ymateb i ddatganiad Age Cymru yn benodol fod strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig 2010 bellach wedi dyddio, a bod angen i Gymru a Llywodraeth Cymru ddarparu strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig newydd i Gymru, i adlewyrchu nid yn unig effeithlonrwydd ynni, er mor bwysig yw hynny, ond yr holl faterion cyfiawnder cymdeithasol ehangach sy’n gysylltiedig â’r mater pwysig hwn?