<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:41, 1 Chwefror 2017

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Ysgrifennydd Cabinet, fe fyddwch chi’n ymwybodol o’r gwaharddiadau sy’n deillio o ffliw adar ar hyn o bryd yng Nghrymu. Os yw’r gwaharddiadau yma’n para tan ddiwedd mis Chwefror, bydd 90 y cant o gynhyrchwyr wyau yng Nghymru yn colli eu statws wyau buarth neu wyau maes—beth bynnag sydd orau gyda chi—a byddwn ni felly wedi mynd heibio i’r cyfnod lle caniateir i ieir gael eu cadw o dan do. Byddwn ni’n colli statws sydd yn hynod bwysig i gwsmeriaid ac i gynhyrchwyr wyau yng Nghymru. A ydych chi’n cael trafodaethau ar hyn o bryd, drwy Lywodraeth San Steffan, gyda phartneriaid Ewropeaidd ynglŷn ag estyn y cyfnod yma neu ynglŷn ag amrywio’r gwaharddiadau?