Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 1 Chwefror 2017.
Bydd y mesurau rhagofalus yn parhau ar waith tan 28 Chwefror. Rydych yn llygad eich lle—mae 85 y cant o gynnyrch wyau Cymru yn wyau maes. Cyfarfûm y bore yma gyda’r prif swyddog milfeddygol, ac ydy, mae’n trafod â’r gweinyddiaethau eraill. Gwn ei bod wedi cael trafodaethau ddoe gyda swyddogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a’r bore yma hefyd, gan fod wyth achos o ffliw adar wedi bod yn y DU bellach. Credaf mai ddydd Llun y cafwyd y diwethaf, felly mae’n amlwg ei fod yn dal yn fater byw iawn. Felly, mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt.