Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 1 Chwefror 2017.
Rwy’n falch bod trafodaethau wedi dechrau, achos, os yw’r gwaharddiadau presennol yn estyn y tu hwnt i fis Chwefror, fe fyddwn ni’n colli’r statws wyau buarth yna. Fel rŷch chi newydd ei gadarnhau, mae 89 y cant o wyau yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu o dan y statws yna. Mae hwn yn cymharu â 44 y cant drwy Brydain yn gyffredinol. Felly, rydym ni yng Nghymru yn arbenigo mewn wyau buarth ac mae’n bwysig iawn i gynhyrchwyr ein hwyau ni.
Mae arweinwyr yr undebau amaethyddol ar lefel Ewropeaidd wedi gofyn am estyn y cyfnod 12-wythnos. Mae hefyd yn wir i ddweud bod y gwaharddiadau sydd gyda chi, fel Ysgrifennydd Cabinet yng Nghymru, yn rhai rŷch chi’n gyfrifol amdanynt. A ydych chi mewn sefyllfa o gwbl i roi amlinelliad i’r Cynulliad heddiw ar a ydych chi am barhau â’r gwaharddiadau heibio diwedd y mis bach neu a ydych mewn sefyllfa i osod camau eraill ar gyfer Cymru, gan gynnwys bioddiogelwch uchel, er mwyn cadw statws wyau buarth?