Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch. Rwy’n cydnabod gwerth cynnal a gwella bioamrywiaeth forol ac adeiladu cydnerthedd ein hamgylchedd morol. Mae cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol yn ei gwneud yn ofynnol inni sicrhau bod ein moroedd mewn cyflwr amgylcheddol da. Mae’n nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i ddiogelu, cynnal ac adfer yr amgylchedd.