Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol ac mae hynny’n ein hymrwymo i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020, ac yna i ddechrau gwrthdroi’r dirywiad hwnnw. Darllenais yn ddiweddar am y gostyngiad yn nifer y sewin yn afonydd a moroedd Cymru. Maent yn nodwedd o Gymru mewn sawl ffordd—sewin. Maent yn ein hatgoffa pa mor wyliadwrus y mae angen i ni fod yn y maes hwn ac yn sicrhau ein bod yn bodloni’r targedau hyn ac yn rhagori arnynt.