Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb a’ch awgrym y byddwch yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr ymgynghoriad cyn bo hir. Yn amlwg, pan gyhoeddwyd y Papur Gwyrdd, mynegwyd pryderon mawr gan bysgotwyr ynglŷn â’r effaith y buasai’n ei chael ar stociau pysgota ac amseroedd bridio. Ac efallai mai mater mynediad ‘cyfrifol’ yw’r gair pwysig. Cyfarfûm â fy nghymdeithas bysgotwyr leol nos Wener diwethaf, ac maent yn dal i fod yn bryderus ynglŷn ag amseroedd mynediad er mwyn sicrhau na fydd unrhyw darfu ar y pysgod pan fyddant yn bridio. A wnewch chi sicrhau felly mai’r broses wirfoddol a nodwyd gennych yw’r ffordd orau efallai o sicrhau perthynas dda rhwng y pysgotwyr a’r rhai sy’n dymuno defnyddio’r afonydd, er mwyn i bawb allu cael budd o’r dyfrffyrdd mewndirol?