Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 1 Chwefror 2017.
Gwnaf, yn sicr. Credaf ei fod yn fater emosiynol iawn. Pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd, rwy’n cofio bod fy mag post yn llawn o lythyrau gan bysgotwyr a chanŵ-wyr, ac mae pethau’r un fath yn union fel Gweinidog. Mae’n fater hynod o emosiynol. Mae’n ymwneud, rwy’n credu, ag ystyried nid yn unig pysgotwyr, nid yn unig canŵ-wyr—mae’n ymwneud â cherddwyr, mae’n ymwneud â nofwyr, mae’n ymwneud â cherddwyr ceunentydd; rwyf wedi cael gohebiaeth gan bobl sy’n mwynhau cerdded ceunentydd. Felly, credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae’n ymwneud ag edrych ar y manteision ychwanegol hefyd—y manteision i iechyd a lles—ac unwaith eto, credaf ein bod wedi gweld hynny gyda llwybr yr arfordir, er enghraifft, felly mae angen hynny arnom gyda’n mynediad at ein dyfroedd mewndirol hefyd.