<p>Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:06, 1 Chwefror 2017

Diolch yn fawr unwaith eto, Ysgrifennydd, am yr ateb yna. Yn wahanol iawn i’r cynllun ar Fynydd y Gwair, mae ymateb y trigolion lleol ger fferm wynt Awel Aman Tawe wedi bod yn bositif iawn, yn rhannol oherwydd maint y fferm, wrth gwrs, ond, yn ei hanfod, oherwydd bod y gymuned leol yn elwa’n uniongyrchol ohoni. Felly, a ydych chi’n cytuno bod yna wersi gan Lywodraeth Cymru i’w dysgu yn fan hyn yn nhermau’r angen i gefnogi cymunedau lleol sydd am weld ynni adnewyddadwy yn cael ei ddatblygu, a beth yw eich cynlluniau chi yn y maes yna?