Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 1 Chwefror 2017.
Rwy’n fwy na pharod i gefnogi cynlluniau ynni lleol. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, gan fy mod wedi agor cynllun ynni dŵr bychan ym Merthyr Tudful, ymwelais â’r un y cyfeiriwch ato, a soniais yn fy ateb cychwynnol i chi fod gennym 11 o gynlluniau ar waith o ganlyniad i waith y gymuned leol. Credaf fod yna rai pobl ddygn iawn sy’n teimlo’n hynod o angerddol ynglŷn â hyn. Mae’n broses hir, ac maent yn hollol benderfynol o weld ei diwedd. Mae pump arall yn cael eu datblygu gennym, ac rwy’n fwy na pharod i sicrhau bod y cyllid ar gael i gefnogi’r ardaloedd hynny.