<p>Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:08, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, gwelir un o’r tagfeydd sy’n digwydd yn y maes hwn, Weinidog, o fewn y cynghorau lleol sy’n gorfod rhoi caniatâd i’r gwahanol gynlluniau a gyflwynir. A ydych yn credu bod cynghorau lleol yn ddigon gwybodus ynglŷn â manteision cynlluniau cymunedol lleol, ac mewn gwirionedd, yn ddigon gwybodus ynglŷn â’r ffordd orau o’u hyrwyddo, boed hynny’n ynni gwynt, yn ynni afonydd, neu beth bynnag y bo? A oes angen i ni gael trafodaethau pellach neu a oes angen i chi gael trafodaethau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ynglŷn â sut y gallem hybu’r broses o gael gwared ar y tagfeydd ledled Cymru, fel y gallwn sicrhau bod mwy o’r cynlluniau hyn ar waith?