<p>Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:09, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n bwysig iawn fod gan yr awdurdodau lleol yr arbenigedd hwnnw’n fewnol, neu os nad oes, gallant gydweithio ag awdurdod lleol cyfagos er mwyn sicrhau eu bod yn ei gael. Ni chredaf ein bod yn dymuno gweld tagfeydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cynlluniau hyn yn cael eu sefydlu a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Soniais yn fy ateb i Dai Lloyd fod rhai o’r bobl y cyfarfûm â hwy sydd wedi cyflwyno’r cynlluniau lleol hyn yn ddygn iawn, am fod rhaid iddynt fod. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod cael gwared ar y tagfeydd hyn.